Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU Y TRO OLAF AC YSGRIFAU ERAILL, gan W. J. Gruffydd. Y Clwb Llyfrau Cymraeg, 1939. Tt. 238, 4s. 6d. UN o'r pethau cyntaf a wnawn ni ddarllcnwyr Y Llenor, pan ddaw rhifyn newydd i'n dwylo, ydyw edrych a ocs ynddo Nodiadau'r Golygydd. Ac oni bydd, rywsut, y mae rhyw gwmwl o siom yn crynhoi o gylch y rhifyn hwnnw. Ceir yn y nodiadau hyn sylwadau un o feimiaid craffaf y bywyd Cymreig heddiw. Pa faint o ddylanwad a gânt ar y bywyd sydd fater arall, ond yn sicr byddant yn ddogfennau pwysig i'r neb a fynno fesur ac ystyried twf neu ddirywiad pethau gorau Cymru yn y cyfnod ar ól y Rhyfel. Ychydig rifynnau yn ól cwynai'r Golygydd nad oedd ei holl feirniadu (gydag un eithriad) wedi dwyn dim ffrwyth. Bygythiai dewi, ond y mae ei holl ddarllenwyr yn llawenhau na adawodd i'w Binder ei orchfygu. Nid yw'n syn o gwbl fod pwl o wangalondid yn dod dros OIygydd Y Llenor weithiau. Fe ddaw o bryd i'w gilydd dros unrhyw un a geisio ddeffro cenedl sy'n bcnderfynol o gysgu,—efallai y byddai dywedyd achub cenedl sy'n benderfynol o farw yn ymadrodd mwy cywir am y Cymry. Fe ddaw'r demtasiwn weithiau ar warthaf rhai ohonom, sydd heb wneuthur mwy na rhyw chwarae ag ymylon y broblem, i adael i'r genedl fyned i gythraul a chyfyngu ein hegnïon i gylch llai—ond mwy cydnaws—у rheiny sydd o ddifrif yn coleddu iaith a llên Cymru. Y mae Cymru Gymreig wedi ei thynghedi i genhedlu yn ystod y tri chwarter canrif ddiwethaf gynifer o Gymry cwbl ddifater ynghylch parhâd y genedl, a chynifer o Gymry parchus, di-asgwrn-cefn, sydd yn honni bod yn fawr eu gofal am etifeddiaeth y genedl, ond heb ddigon o wroldeb hyd yn oed i edrych ar yr unig Iwybr sy'n arwain i fywyd cenedlaethol llawn, chwaethach cerdded ar hyd-ddo. Efallai iddi fod felly ym mhob .cenhedlaeth, ond yn awr, a'r frwydr yn troi yn gyflym yn erbyn y traddodiad Cymreig, y mae'r difaterwch a'r hunanddigonolrwydd yn fwy ■annioddefol. Bu gormod o dincera â bywyd Cymru yn ystod yr hanner canrif ddiwethaf, yn Ile ei drin fel uned organig. Y mae'r tinceriaid o hyd yn edrych ar y gwahanol ddarnau y cymerant hwy ddiddordeb ynddynt, ac yn synnu eu bod mor amddifad o undod bywydol. Nid ydynt •eriocd wedi sylweddoli mai uned organig ydyw cenedl yn tyfu ac yn ffrwytho, neu yn crino ac yn marw. Ni fedrant amgyffred bywyd cenedl- aethol yn ei gyfanrwydd. Fe ddylai fod gan ddarllenwyr Y Llenor amgen- ach syniad. Ni wn i faint o ddarllenwyr cyson sydd i'r Llenor, ac, fel yr awgrymais, ni wn faint o ddylanwad a gaiff ar fywyd cyhoeddus Cymru. FeI y dengys