Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MERCH Y CLOCHYDD, gan R. Gwyndaf Jones. Foyle, 3s. 6d. ANTURIAETHAU GWAS Y WERN, gan Joseph Jenkins. Gwasg y Brython. 1s. OES y nofel yw hon yn Lloegr ac ar y Cyfandir, y mae pawb yn ei darUen, o'r mwyaf dysgedig a deallus hyd at y merchetos sy'n prynu'r nofeledau dwy geiniog. Ac yr ydym ninnau yng Nghymru yn awyddus i gopio Lloegr yn hyn beth bynnag. Ond, ysywaeth, rhaid i'r dysgedig yng Nghymru droi'n bur fuan at lenyddiaeth estronol, wedi Uwyr ddi- hysbyddu'r llenyddiaeth frodorol. Ac am y dyn cyffredin, haera ef nad oes dim i'w gael yn Gymraeg ar wahân i ychydig bapurau wythnosol, Uenyddiaeth yr Ysgol Sul, llyfrau Kate Roberts, sy'n rhy aruchel iddo, a gweithiau Daniel Owen sydd eisoes yn hen ffasiwn. Y mae'n dda gennyf fod amryw lyfrau Cymraeg wedi ymddangos yn ddiweddar ar gyfair y dyn cyffredin a'r ifanc, yn fach ac yn fawr. Llyfrau o'r fath yw'r ddau yma, Mercb y Clocbydd, gan awdur Tabitha, ac Anturiaethau Gwas y Wern gan y Parch. Joseph Jenkins. Stori gyffrous i blant yw'r olaf, ac er bod gofyn cryn lawer o ddychymyg i gredu popeth a ddywed Gwas y Wern am ei wrhydri a'i fynych ddihangfa wyrthiol, dylai fod yn stori wrth fodd y bachgen tair ar ddeg oed. Nofcl i rai hyn yw Merch y Clochydd. Dylai apelio'n arbennig at y bobl ifainc hynny sy'n cwyno fod pob llyfr Cymraeg yn sôn am y Capel a'r Seiat a hen flaenoriaid da a drwg. Ymgais a geir yma i bortreadu bywyd mewn siop fawr mewn tref bwysig yng Nghymru-y bywyd arwynebol yna y tyb trigolion Abertawe a Chaerdydd, a'r ifanc ym mhobman, ei fod yn fywyd yn wir. Y mae'n stori eithaf diddorol-er bod y cymeriadau'n ymddangos braidd yn od weithiau. Y mae gan Mervyn Rees fwy o gyfoeth na Lord Nuffield, a chymaint o amynedd â Job. Ond na chwyned merched ifainc Cymru nad oes storïau caru modem yn Gymraeg byth eto. Un peth sy'n peri blinder i mi yn y ddau Iyfr, sef .yr iaith. Ceir ambell i ymadrodd annaturiol yn Anturiaethau Gwas y Wern, a gormod o lawer o ddywediadau anghymreig yn Merch y Clocbydd. Dylid cofio mai cywirdeb mewn iaith sy'n gwneud arddull-a dim ond y gorau sy'n ddigon da i ieucnctid Cymru. M.B. RHAMANT RHYDWILYM, gan John Absalom [a'r] Parch. E Llwyd Williams. Gwasg Gomer, Llandysul, 1939. Tt. 77, 2s. 6d. Y MAE ar Gymru ddyled drom i ddynion sydd yn eu cylchoedd eu hunain yn ymddiddori yn hanes y gorffcnnol, ac yn eu ffordd eu hunain yn dyfal gasglu ffeithiau hanes eu plwy, eu capel, a'u bro. Nid oes nemor i ardal heb rywun sy'n ymddiddori yn ei gorffennol, ond prin iawn yw'r dynioo