Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

eglwys ei chapel ar ochr Sir Gaerfyrddin i afon Cleddau; ond prif amcan y gyfrol ydyw olrhain hanes y gynulleidfa a fu'n addoli yn y fangre honno hyd heddiw. Ysgrifennodd Dr. Tom Richards ragair byr i'r gyfrol sydd yn codi awydd ynom am gael eto ganddo ef hanes yr eglwys yn ei chysyUtiadau ehangaf, a'i dechreuad rhamantus. Y mae diwyg y gyfrol yn dystiolacth bendant arall i'r safon newydd a osodwyd i Iyfrau hanes yr achos lleol yng Nghymru. O'r tri darlun ar ddeg sydd ynddi, y mae deuddeg yn wirioneddol dda. Yr eithriad ydyw'r didrefn gasgliad o swyddogion yr eglwys. Y mae'r Uyfr yn dystiol- aeth arall i lendid crefft Gwasg Gomer. EVAN D. JONES. Y PRIFATHRO THOMAS REES: EI FYWYD A'I WAITH. Gwasg Gomer, Llandysul, 1939. Tud. 172, 3s. 6d. BU disgwyl mawr am y gyfrol hardd hon mewn amryw gylchoedd. Cych- wynnodd y Prifathro Thomas Rees ar ci yrfa addysgol yn ysgol baratoi'r Parch. Lewis Evans yn Hen-dŷ-Gwyn-ar-Daf. Ymhen blynyddoedd ar ôl hyn ysgrifennai'r olaf ychydig gofiort am ei ddisgybl disglair, a'i alw yn arwr yn ystyr Carlyle. Dymunai am ryw Cariyle i wneuthur cyfiawndcr â'i goffadwriaeth. Nid Carlyle sydd yma, mae'n wir, ond pump o hen ddisgyblion y Prifathro hoff yn cydweithio i goffáu eu harwr, a rhaid dywedyd ar unwaich ei bod yn anodd meddwl y gaUasai hyd yn oed y cawr hwnnw wneuthur gwell chwarae teg â'r gwrthrych na'r rhain. Oblcgid pwy, wedi'r cyfan, sydd yn fwy cyfaddas na hen ddisgybl i ysgrifennu am un a dreuliodd ei oes yn bennaf i addysgu? Y Parch. T. Eirug Davies biau'r clod am olygu'r llyfr, er na ddywedir mo hynny ar yr wyneb-ddalen. Y mae perygl weithiau pan fo mwy nag un yn ymgymryd â'r gwaith o ysgrifennu llyfr fel hwn, y bydd y cyn- nyrch yn fratiog a digyswllt, ond da gennym allu tystio na ddigwyddodd hynny yma. O fewn terfynau'r llyfr y mae yn syndod gymaint o ddefnydd sydd wedi ei osod i mewn. Y mae gennym ryw rith cof inni glywed yn rhywle mai llyfr swUt a fwriadwyd ar y dechrau, ond iddo fyned yn Uyfr haner coron, ac yna yn llyfr tri a chwech. Gresyn fuasai cwtogi dim ar lyfr yn deüo â chymeriad mor gryf ä'r Dr. Thomas Rees. Buasem ni yn bersonol yn barod i dalu rhagor am gael mwy o wybodaeth am fywyd un a enyn- nodd gymaint o. edmygedd ymhlith ei ddisgyblion. Nid bod y Uyfr yn gynnyrch arwr-addoliaeth ddaü; i'r gwrthwyneb yn hoUol. Y mae yn iachus, er enghraifft, i gael Uyfr mewn Cymraeg yn rhoddi ffcithiau, fel eiddo'r Parch. Eirug Davies wrth ddelio â mebyd Rees, yn dangos nad sant wedi ei wneuthur o blastr oedd o'i grud. Y mae'r ysgrifau i gyd yn ddi- dwyll, gonest a Uednais yn yr ystyr hyn. Eithr dywed y golygydd yn Y