Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn vr un modd dengys Recs ci fawredd a'i weledigaeth wrth ymdrin â chwestÏwn undeb yr Eglwysi. "Nid er ei fwyn ci hun y dylid ccisio undeb, ond er mwyn rhyw ddiben mwy nag ef ei hun, y gall undeb fod yn foddion i'w sicrhau, a phe byddai'r enwadau yn fyw i'r perygl sy'n bygwth ein gwlad heddiw cawsent eu tanio â sêl a brwdfrydedd i achub dynion, nes anghofio eu gwahaniaethau a'u darostwng i amcanion Teyrnas Dduw." Sonia'r Parch. S. B. Jones amdano fel Golygydd gwahanol gyhoeddiadau. Yma eto gwnaeth waith mawr fel arweinydd diogel, ond ysywaeth, nid oedd Cymru, ac nid yw heddiw, yn barod i wrando amo. Dengys Mr. Jones mor glir oedd ei ganfyddiad, ac mor sicr ei fam, yn adeg y Rhyfel Mawr, a gwelwyd cyfiawnhau ei olygiad yn llwyr yn y dyddiau hyn. I gloi i fyny ceir pennod fer ond diddorol gan Eirug i sôn amdano fel cyfaill ac ar ei aclwyd gartreí. Rhoddwyd rhestr ar y diwedd o'r Uyfrau a gyhoeddwyd gan y Prifathro ynghyd â rhestr o'i ysgrifau i Gyfnodolion, etc. Haedda awdurdodau Gwasg Gomer eu llongyfarch ar droi allan gyfrol ddestlus a glân. Gallwn fentro cyraell ein cyfeillion i'w phrynu. D. L. TREFOR EVANS. PLANT Y MYNACHDY, Stori ar gyfer Plant Ysgol, gan Elizabeth Watkin Jones, Gwasg Aberystwyth, 1939. Td. 128, 2s. 6d. DYWEDIR ar wyneb-ddalen y stori hon mai ar gyfer plant ysgol y'i sgrif- ennwyd, ac nid yw'n deg ei barnu, felly, ond yn ól yr apél a fedd i'r meddwl ifanc. Stori gyffrous ydyw hon, yn Ilawn o antur bywyd yng Ngwynedd yn ystod y Rhyfel Cártrefol. Ystrywiau a chynllwynion Plaid y Brenin Siarl I. yn erbyn Plaid Cromwell a'r Senedd a Iiwia gefndir y stori, a deuir â djddordeb a chydymdeimlad ychwanegol i'r hanes pan welir mai i Blaid wan y Senedd y perthyn y prif gymcriadau. A Gwynedd, o'r naill gwr i'r llall yn deyrngar i'r Brenin, eto, i wyr y Senedd y tâl Owen Meredydd bob gwrogaeth. Trig ef a'i blant, Esyllt a Benni, yn y Mynachdy, plasty eang yn ymyl tref Caernarfon, ac oherwydd ymlyniad di-ildio'r tad i achos y Senedd, cwyd helubulon a pheryglon lawer i lcsteirio bywyd syml plant y Mynachdy. Ni phetrusa Owen Meredydd ymuno ym myddin y Senedd, a gedy ei deulu yng ngofal hen famaeth y teulu, Mari. Wrth ddarllen y stori, fe welir nad ar faes y gad yn unig y ceid y peryglon enbytaf, canys wyneb- wyd Esyllt á Bcnni hwythau â phrofiadau ac amgylchiadau a ddychrynafr milwr caleuf ei deimladau dur.