Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYMRU 1940 Myned o'th feibion at waith ymhell, Myned o'th feibion drud. Aethant," dywedi, "i wlad sydd well," A thithau'n fodlon fud. Colli a blanna dy erddi di; Colli'r gynghanedd o'th gerddi di; Diangen dy bwiangerddi di, Am fyned o'th feibion ymhell. Curo wrth ddorau dy weddill blin; Galw dy feibion drud. Myned o'th feibion prin i'r drin; A thithau'n fodlon fud. Medi 0 gnwd dy farweidd-dra mwy, Meysydd dy lesni'n ddiffrwythdra mwy; Erys dy anghyfanhedd-dra mwy, Am fyned o'th feibion i'r drin. IDRIS HOPCYN. GOLYGYDDOL DYMUNWN ymddiheuro i amryw o'n eyfeillion caredig am eu cadw gyhyd cyn cyhoeddi eu cyfraniadau. Fel pob cylchgrawn arall gorfodwyd ni gan brinder papur i gynilo ar ein gofod, a thrwy hynny drethu amynedd llawer. Hyderwn y bydd i'n darllenwyr faddau inni am ddef- nyddio rhagor o'r llythyren fân, yn ein hymdrech i wneud iawn am y lleihau a fu ar nifer y tudalennau.