Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GELFYDDYD O DROI ANERCHIAD* GAN BLEDDYN AP BLEWDDYN AFRAID i mi gyfaddef, gyfeillion, fy mod yn ymglywed â'r anhawster difrifol o drafod pwnc sydd eisoes yn gwbl gyfarwydd i chwi, ac sydd i fesur helaeth wedi eich tywys i'r man lle'r ydych chwi heddiw. Traha anesgus- odol ar fy rhan fyddai ceisio eich arwain ar hyd llwybrau cynefin a chyffredin y Gelfyddyd o Droi. Petawn, er enghraifft, yn sôn am droi do mewn safe, o droi fììgurau mewn llyfr siec, o droi dwr yn llaeth, neu hyd yn oed o dindroi y tu allan i ariandy am ddau o'r gloch yn y bore bach, byddwn yn trin materion yr ydych yn fwy o awdur- dod arnynt na mi. ("Snechgi" "Drop it"). Am hynny, carwn fynd heibio i'r materion hynny fel pe na baent yn bod o gwbl. Oblegid er eu bod a fynnont â chwi oll yn bersonol, ac yn wir yn elfen hanfodol yn eich galwedig- aethau amrywiaethol a dwyngarol, agweddau hepgor ydynt o'r pwnc y carwn dynnu eich sylw caredig ato am ychydig amser y bore yma. Oherwydd yr wyf am ymdrin â chysylltiadau llenyddol y Gelfyddyd o Droi yn bennaf. Gwn, fel y gwyddoch chwi, fod yna ganghennau eraill diddorol ac adeiladol i'r gelfyddyd hon ym myd gwleidyddiaeth a chrefydd Cymru, ac efallai y daw cyfle i mi eto rywbryd eu trafod gydachwi. ("Dim fear" "Hopes canary, was"). Heddiw, ysywaeth, canolbwyntiwn ein sylw ar gyfraniad pwysig y gelfyddyd hon i'n llenyddiaeth hen a chyfoes. Yn gyntaf dim, priodol fyddai gwyntyllu'r gwahanol ystyron a roddir i'r gair Troi. Y gair a arferir amdano yn Anerchiad yw hwn a draddodwyd gan Bleddyn ap Blewddyn i Gymdeithas y Troseddwyr Cymreig ym Mhlas y Brenin, am 5.30 a.m. Ebrill á. I93I. recordiwyd gan yr awdurdodau, ac iddynt hwy y mae'r andd am ganiatâd i'w gyhoeddi fel y'i traddodwyd ac y'i cofnodwyd ganddynt.