Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYDDIADUR CYMRO CATHOD A MWNCYOD Ceir ymhlith un o sectau'r Hindwaid ddwy blaid-y rhai sy'n dal Athrawiaeth y Gath a'r rhai sy'n dal Athrawiaeth y Mwnci. Yn ôl Athrawiaeth y Gath, mae dyn yn cael ei achub gan Dduw yn yr un modd ag y mae cath fach eiddil yn cael ei hachub gan ei mam: Duw ac nid dyn sy'n cyflawni'r weithred. Yn ôl Athrawiaeth y Mwnci, mae'n rhaid i ddyn weithredu ei hun er mwyn cael ei achub: rhaid iddo ym- afael yn Nuw fel y mae mwnci ifanc yn ymafael yn ei fam. Cymharer, wrth gwrs, yr athrawiaethau am yr Iawn a Ffydd a Gras a Chyfiawnhad ymhlith Cristnogion. Beth ydych chwi, cath fach ymddiriedus ynte mwnci ifanc gafaelgar? Oni fyddai'n fendith pe gallem ni i gyd dyfu i fyny, yn gathod prydferth ac yn fwnciod braf? "PRESTIGE" MEWN LLENYDDIAETH Fe roddwyd bastinado da gan Mr. Hywel D. Lewis i Mr. C. E. M. Joad yn ddiweddar fel cosb gyfiawn am ei anwybodaeth a'i haerllug- rwydd. Yr oedd Mr. Joad, mewn ymosodiad ar yr iaith Gymraeg, ar ól cyfaddef nad oedd yn gwybod dim am ei llenyddiaeth, wedi mynd ymlaen i brofi'r peth drwy awgrymu nad oedd dim i'w gael mewn llenyddiaeth Gymraeg ond some long and boring ballads which have come down from before the Middle Ages." Mae gosodiad fel hwn, wrth gwrs, yn chwerthinllyd i un a wyr y peth cyntaf am lenyddiaeth Gymraeg. Ond nid yw darllenwyr Mr. Joad yn gwybod y peth cyntaf am unrhyw destun sydd mor ddielw ac mor anffasiynol. Ac nid yw gosodiad Mr. Joad ond yn rhan o gynllwyn arweinwyr meddyliol y Saeson yn erbyn yr hilion israddol sydd yn ddar- ostyngedig i'r gorfforaeth ariannol a elwir Prydain Fawr." Wrth gwrs, mae Mr. Joad yn ddiniwed mewn ffordd. Mae'n rhyng-genedlaetholwr enwog, ac y mae'n fwy na hynny (gall rhyng-genedlaetholwyr enwog ddweud pethau rhyfedd iawn, yn enwedig os ydynt mor enwog â Mr. H. G. Wells) — mae'n heddychwr hyd yn oed yn amser rhyfel. Mae'n haeddu parch. Yr wyf yn fodlon credu mai offeryn ac nid dirprwy ydyw i gyfalafiaeth Brydeinig-catspaw ac nid accomplíce-fe1 y mae Mr. H. G. Wells druan yn ei anwybodaeth hapus yn offeryn hylaw i Mr. Winston Churchill. Nid yw Mr. Joad am ladd yr iaith Gymraeg am yr un rhesymau ag y byddai Blimpod yr Ymerodraeth Brydeinig yn