Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gampweithiau llenyddiaeth yr Arabiaid, Maqûmât Hariri. Beth am Ewrop? Yr unig lenyddiaethau o wir bwys yn yr Oesoedd Canol oedd llenyddiaeth Provence a Ffrainc, yr Eidal, Sbaen, yr Almaen, Ynys yr Iâ, Lloegr, Cymru, ac efallai Iwerddon a Sgotland. Yr oedd llenyddiaeth yn ymladd am fywyd mewn ychydig o wledydd eraill; ac efallai y gellid dweud mai ymladd yr oedd yn Iwerddon a Sgotland, a hyd yn oed yn Lloegr. Rhaid cofio ar yr un pryd fod math o lenyddiaeth ryng-genedl- aethol yn ffynnu, mewn Lladin; anodd dweud i ba ddiwylliant cenedl- aethol" y perthyn gwyr fel Pedr Lombard a Duns Scotus. Eithr credaf y gellir yn deg hawlio Sieffre o Fynwy a Gerallt Gymro i Gymru, am iddynt, bob un yn ei ffordd ei hun, gyflwyno Cymru i sylw'r byd Lladin- aidd; gall Cymru hawlio Sieffre gyda mwy o degwch, er enghraifft, nag y gall Lloegr hawlio Roger Bacon. (Nid oes llawer o urddas yn yr hawlio" yma; ond dyna, ysywaeth, ffordd y byd. Y peth pwysig yw cael rhywbeth tebyg i'r gwirionedd.) Drwy Sieffre a chyfryngau eraill fe Gymreigeiddiwyd i raddau helaeth bob llenyddiaeth bwysig yn Ewrop: mae cerddi Edda a Sagâu Ynys yr Iâ yn eithriad sy'n profi'r rheol. Meddylier am Ffrainc yn y cyfnod hwn, am y Chansons de Geste, y Fabliaux, y Cbanson de Roland, gwaith y Trwbadwriaid a'r Trwfwriaid, Abelard, Chrétien de Troyes, Benoît de Sainte-More, Guillaume de Lorris a Jean de Meung, Marie de France, Froissart, Villon. Meddylier am yr Eidal, gydag Aquinas, Dante, Petrarca, Boccaccio, Poliziano, Sanna- zaro, Ariosto a'r Ueill; am Sbaen gyda Cherdd y Cid, y ddrama am y Bienhinoedd Magiaidd, Gonzalo de Berceo, Juan Ruiz, Juan Manuel, Hernando del Pulgar, Jorje Manrique, ac eraill; am lenyddiaeth yr Almaenwyr, y Nibelungenlied, Walther von der Vogelweide, Hartmann von Aue, Wolfram von Eschenbach, Gottfried von Strassburg, Eckhardt, Johann Tauler, Thomas à Kempis, Sebastian Brandt. Mae pob un o'r llenyddiaethau hyn yn rhagori ar lenyddiaeth Saesneg yr un cyfnod- Layamon, Richard Rolle, y Rhamantau, Wiclif, Gower, Chaucer, Piers Plowman, Lydgate, Occleve, Malory, Skelton, ac yn y blaen. Pathetig yw ymgeisiadau'r beimiaid Seisnig i weld athrylith anfarwol yn Chaucer; yr oedd ei feddwl yn daleithiol dros ben. Ond y peth i'w gofio am bob un o'r Ilenyddiaethau hyn yw bod ar y pethau gorau ynddynt oll ddyled ddirfawr i'r dychymyg Cymreig. Canys o Gymru y daeth nid yn unig yr holl chwedl Arthuraidd ond hefyd yr holl ddelfrydau moesol ac esthetig a gorfforid ynddi. Yr un ysbryd a geir mewn Arthuraeth ag a geir yn y Cyfreithiau Cymreig: cyfiawnder, trugaredd, prydferthwch, cwrteisi, a chariad hanner-crefyddol at ferched. Trawsnewidiwyd Mair- addoliaeth dan ddylanwad yr ysbryd newydd. Cychwynnwyd Bywyd Newydd i Ewrop oll yn ogystal ag i Ddante. Branwen yw'r ferch fodern gyntaf yn hanes llenyddiaeth y byd; mae Beatrice yn olynydd iddi,