Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CIPDREM AR IWERDDON CYN Y NEWYN (VYDDIADURON HUMPHREY 0'SULLIVAN) TROBWYNT mawr hanes Iwerddon yn y ganrif ddiwethaf oedd Newyn Fawr 1845-48. Cyn y trychineb hwn rhifai poblogaeth yr ynys draean poblogaeth Prydain Fawr, ac yr oedd yr iaith Wyddeleg ar enau rhyw ddwy filiwn ohonynt. Canlyniad naturiol amodau byw corff y genedl er cychwyn y Cyfreithiau Dial yn 1689 oedd y newyn. Tlodwyd y bobl dan ormes landlordiaeth estron, nes eu gorfodi i rygnu byw ar y bwyd hawsaf iddynt ei godi iddynt eu hunain, sef tatws. Pan ddaeth clefyd ar y tatws trwy'r wlad, yr oedd hi ar ben arnynt, ac yna bu'r marwolaethau a'r ymfudo a ddifethodd nerth y Gwyddel am genhedlaeth, a rhoi ergyd i'r iaith a fu agos â'i lladd yn llwyr. Am fod y bwlch a achoswyd yn hanes Iwerddon gan y newyn mor ddifrifol, y mae gwerth arbennig yn nyddiad- uron Humphrey O'Sullivan. Fe'u lluniodd yn feunyddiol o 1827 hyd at 1835. Gach lá Une-sef "llinell bob dydd" oedd ei arwyddair, ac er bod ei fesur yn haelach na hynny o lawer fel rheol, nid yw nemor byth yn colli dydd. Dyma'r darlun llawnaf a chliriaf sydd gennym o fywyd Iwerddon yn ystod y cyfnod, ac un o drysorau prin llen- yddiaeth Wyddeleg y ganrif. Dyma Lythyrau Morysiaid eu dydd a'u gwlad. Ganed yr awdur yn Killarney ar ddydd Clamai tua 1780. Mab oedd ef i ysgolfeistr a yrrwyd gan dlodi o'i gartre, gyda'i wraig a'i blant, yn y flwyddyn 1789. Ar ôl ysbaid fer yn ninas Waterford, daethant i dreflan o'r enw Callan yn Sir Kilkenny ym mis Mawrth 1790. Dyma barhad o'r hanes mewn trosiad o eiriau'r mab: