Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU GWAITH GUTO'R GLYN; casglwyd gan John Llywelyn Williams, golygwyd gan Ifor Williams. Gwasg Prifysgol Cymru, 1939. Tdd. xxiv, 389. 12S. 6d. OUN i un cyhoeddir gweithiau mwy a mwy o feirdd Cymru; ac o'r diwedd, wele Waith Guto'r Glyn, un o feirdd pwysig y bymthegfed ganrif. Casglwyd ei waith gan Mr. J. Llywelyn Williams, a throsglwydd- odd yntau ei gasgliad i ofal yr Athro Ifor Williams, ar ôl olrhain hanes -a chysylltiadau'r bardd. Gwnaeth yr Athro ddeunydd o'r ymchwil hwnnw yn ei Ragymadrodd, ond dywaid wrthym mai ef sy'n gyfrifol am yr Eirfa .a'r Mynegai. Nid gor-fanyldeb ydyw nodwedd y nodiadau yn ddiau, ac nid gor-brinder ychwaith. Dan yr amgylchiadau, hawdd yw deall paham y cyfyngwyd hyd at yr anhepgor yn y Rhagymadrodd a'r nodiadau. Gyda'u cymorth, ni ddylai fod yn amhosibl i unrhyw Gymro sydd ganddo'r ewyllys, ddarllen gwaith Guto'r Glyn gyda budd a mwynhad mawr. Myfi a gefais y fraint o ddarllen ei brydyddiaeth i gyd ryw saith mlynedd yn ôl, pan roddodd Mr. J. Ll. Williams fenthyg ei gasgliad imi -ar gyfer ysgrifennu Llywodraeth y Cestyll. Deuthum i'r meddwl yr adeg honno fod Guto'n un o feirdd gorau ei ganrif, ac yr oedd yn chwithig 0 beth gennyf feddwl bod ei farddoniaeth heb ei chyhoeddi. Lleinw'r gyfrol hon y diffyg hwnnw, a dyry gyfle i haneswyr a beimiaid llenyddol deimlo'n dra diolchgar am y gymwynas hon a wneir â hwy, ac â llaweroedd eraill. Y mae'n gyfrol hardd, ond, ysywaeth, y mae ei phris yn hardd hefyd- yn hardd yn ystyr arall y gair hwnnw, yr un ystyr ag yn Har[dd]lech, sef uchel. Ni fedr y werin a'r miloedd dalu deuddeg-a-chwech yn fynych am lyfrau fel hwn; ac y mae'n drueni na ellid cyhoeddi gweithiau'r beirdd am bris llawer iawn mwy rhesymol. Mi ddeallaf yr anhawster y mae •Gwasg Prifysgol Cymru ynddo. Yr un pryd, fe ddylid ar bob cyfrif yn y byd gyhoeddi gweithiau'r beirdd am brisiau llai hyd yn oed na hanner pris y llyfr hwn. Nid harddwch y gyfrol, na manylder yr eirfa a'r nodiadau, sy'n bwysig, ond y testun ei hun, bydded mor foel ag y bo. Un o anghenion mwyaf llenyddiaeth Gymraeg heddiw ydyw cyhoeddi yn rhad ddetholiadau o waith beirdd pwysicaf y bymthegfed ganrif a'r unfed ar bymtheg. Aed HEDDIW ati i gyflawni'r gwaith hwn, a bydd <lyled Cymru'n fawr iddo. Casglwyd gweithiau'r mwyafrif o feirdd pwysig y ddwy ganrif hynny, ac nid erys onid eu trosglwyddo o ysgrifen i brint. Yn y cyfamser, diolchwn o galon am Waith Guto'r Glyn, darllenwn