Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

a Gwynedd, ac yn cael aur a medd." Yna'n mynd ar daith porthmon i ganol a gogledd Lloegr. Yn hen wr dall, glŷn wrth ardal ei gartref, clera'n nes yma'n Iâl." Ar y Creawdr y criaf," meddai, gan wylo'r nos lawer, o draserch Duw a'r Iesu." Ar hyd ei faith fywyd hoffodd ameuthunion o bob math-gwinoedd, medd-" perwaith gwenyn," fel y geilw ef yn ei orawen, seigiau a siwgr candi, damasg, melfed, sidan, gwely arras, pwrs o Baris wead" a phob moethau i enau a thafod a meddwl. Er mai gwr o waed isel gwlad ydoedd, er mai ar gerdded y gwledydd Cymreig y bu byw, ni chuddiwyd oddi wrtho lawer o ddirgelwch dysg a llyfrau. Gwyddai'n dda am dair prif ffyn- honnell llenyddiaeth yr Oesoedd Canol, a chyfeiria at eu cymeriadau'n fynych. Carai seintiau ei genedl ei hun yr un fath â Gruffydd Robert ar ei ôl, ac yr oedd bannau'r Beibl 0 leiaf yn gyfarwydd iddo. Yr oedd yn Gymro da ei Gymräeg fel y dywed am un o'i gyfeillion, ond ni fedrai lai na pharchu'r Grog o Gaer," na methu ymhoffi yn y perer- inion a deithiai i Sain Siâm, i Rufain, ac yn enwedig i Gaersalem-í sangu ar ddaear trugaredd." Am hyn oil, ac am lawer rheswm arall, y mae'n gwbl amhosibl i Gymro heddiw eto beidio ag ymhyfrydu yn y Guto ei hun, yn y pethau a garai ef, yn y ganrif y dringodd ef ei blynyddoedd cyffrous, ac yn y Gymru annof a gwâr a gerddodd o Fôn i Fynwy. W. AMBROSE BEBB. Y WAWR, gan Aneirin ap Talfan. Gee, 1940. ií. 6d. YMDRECH oedd y ddrama-basiant hon i wneud dathlu Cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg yn rhywbeth amgenach na gwag siarad," a rhoi cyfle inni brofi eilwaith o rin y llenyddiaeth odidog sydd rhwng cloriau'r Beibl." Anfynych y ceir cyfle i adolygu drama-basiant yn Gymraeg, a hwyrach na warafunir imi fanteisio ar y cyfle i draethu gair neu ddau ar y math hwn o lenyddiaeth, er mwyn ein galluogi i werthfawrogi pwysigrwydd ac arwyddocâd arbennig y ddrama hon. Gwyr y cyfarwydd fod y pasiant yn deip pur boblogaidd o lenyddiaeth yn Lloegr, ac ni ellir beio'r neb a welodd chwarae'r pasiannau hyn os tynn y casgliad cyfeiliornus mai nifer o episodau digyswllt wedi eu seilio ar gefndir byw o hanes yw pasiant-y cwbl yn fawreddog, y golygfeydd a'r gwisgoedd yn diddanu'r llygad ac yn bwydo chwilfrydedd hanes- yddol y gwrandawyr. Deffiniad digon arwynebol a chwbl annigonol o basiant yw hwn, a phwysicach nodi bod ynddi gymwysterau mwy arwyddocaol. Drwyddi ceir cyfle i bortreadu hanes yn fyw a mawreddog, a dehongli ffeithiau