Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HAU A MEDI CERDDAI'N urddasol tua'r Cysegr Santaidd A llwyth o greiriau'i grefydd yn ei law; Ei wisg a'i rodiad a'i ymddygiad gweddaidd Yn tynnu sylw'r dyrfa oddi draw. Het ddur a mwgwd nwy ar draws ei ysgwydd, A llyfr gweddi o dan ei fraich yn dynn; Beibl a llun y groes a fu'n waradwydd, Llyfr emynau, gwenwisg, rhaid wrth hyn. Baldorddi moliant cad yn enw heddwch, Bendithio teyrn yn enw'r Iesu tlawd, Diffodd goleuni'r bydoedd â'i dywyllwch, A gorfoleddu'n groch uwch clwyfau brawd. Yn nifrod yr adfeilion wedi'r bom Cafwyd ei ereiriau yn y lludw a'r dom. T. E. NICHOLAS. TRYSORAU HYDREF I'R cymoedd uchel daw dihefelydd Bersawr y rhoswair a manwair mynydd Ac esmwyth arogl mwsogl y meysydd O'r teisi gwinau a'r tesog weunydd, Ac o'r creithiog fawnogydd-daw lleisiau A rhyw gwndidau'n berganu dedwydd. Gloywch y cryman, daeth aeddfed Fedi A'i orwych hwyrnos er awch ei hoerni; Câr pob mwynferch ei lannerch a'i lwyni, Süon aur rygwellt, a swn yr hogi; Cuddiant delm rhwng yr helmi-a gwyliant, Yna cyd-rwydant lanc â'u direidi. Ac ni wyr ydfaes gyniwair adfyd I chwerwi â'i efrau y chware hyfryd; I'w erwau trystiog ni thery tristyd I oeri â'i gwynfan fwynderau'r gwynfyd; Nwyf a hoen a chwâl boen y byd-ymaith O fôr ei afiaith a'i firi hefyd.