Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwywa Hydref yng nghlefyd,—o'i fwynder Daw rhyw fendith hyfryd; O'i hir boen ceir manna'r byd, A'i ryfedd lawnder hefyd. Hardded toreth ei erddi-a difeth Yw'r Dwyfol haelioni; Diddannod ei ddaioni Yw Duw'r Nef i'n daear ni. Sieryd yn ei drysorau,-Ef ei hun A fywha eneidiau; A gwell na'r gwin i'r fin fau Ddiferion ei ddwyf-eiriau. Lluwch ei goed bellach a gudd Hydre'n ei weryd gwaedrudd. ELUNED ELLIS WILLIAMS. Y FELIN "Pan fo isel sŵn y malu.Y Pregethwr. Ni chofiaf fi'r melinydd Yn wyn ei wisg a'i bryd, Na'r olwyn fawr aflonydd Yn troi a throi o hyd; A dcall wnaf mai dwndwr Y byd a'i boen a'i bair A flinai y Pregethwr, Ond gwn mai gwir yw gair, A gwn heb ddim dyfalu Mai mwynaf peth erioed Yw isel swn y malu A melin yn y coed. HYWEL D. LEWIS.