Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GOLYGYDDOL Y DYFODOL "\pD yw Cymru heddiw heb ei harwyddion gobeithiol. Un ohonynt yw Undeb Cymru Fydd, sef uniad y ddau fudiad, Pwyllgor Diogelu Diwylliant ac Undeb y Cymdeithasau Cymraeg. Gwaith yr Undeb newydd hwn fydd diogelu diwylliant Cymru. Y cwestiwn yw, pa fodd? Mae'n ddiau y gwneir gwaith da gan yr Undeb yn unig drwy gynnal cynadleddau ar hyd a lled y wlad i oleuo meddyliau'r bobl a'u harwain i ddeall gwir sefyllfa ein bywyd heddiw. Ond nid digon fydd cynad- leddau'n unig i ddiogelu diwylliant Cymru. Fe gyfaddefìr yn lled rhwydd, gallem feddwl, mai gwaith pur artiffisial ar y gorau yw "diogelu diwylliant." Nid oes sôn am Gymdeithas i ddiogelu diwylliant Lloegr, na'r Almaen, na Ffrainc tan ei chlwyfau hyd yn oed. Ac y mae'r ffaith ein bod yn gorfod cychwyn mudiad i ddiogelu ein diwylliant yn brawf ddiymwâd bod rhywbeth o'i le ar ein bywyd, yn gymdeithasol ac yn wleidyddol. Ond er cyfaddef hynny, nid oes neb a wad fod cymdeithas o'r fath yn hollol angenrheidiol yn y cyfwng hwn yn hanes ein cenedl. Nid ydym yn byw mewn cyfnod normal, ac ni bu Cymru o ran hynny yn byw bywyd normal ers dros bedair canrif. Felly rhaid gwneud y gorau ohoni. Y mae'r anawsterau'n fawr; y llifeiriant gwrthwynebus yn aruthr; a'r moddion yn ein dwylo'n eiddil ac egwan. Ond nid yw hynny'n esgus dros beidio â'u defnyddio. Pa weledigaeth sydd gan yr Undeb newydd i gyfarfod y sefyllfa? Pa ddulliau, pa foddau, pa gyfryngau? Priodol yw gofyn y cwestiynau hyn. Hyd yma ni chafwyd ond cynadleddau. Yn ddiau y mae hyn yn angenrheidiol er dihuno'r genedl i'w chyflwr. Ond a oes gan yr Undeb rywbeth mwy na hynny mewn golwg? Nid digon siarad. Rhaid gweithredu. Ond ni ellir gweithredu i bwrpas heb gynllun. A feddyliodd yr Undeb am gynlluniau wedi'r deffro? Mae'n bur debyg am dymor y cynadleddau na ellir gwneud Ilawer mwy na derbyn awgrymiadau. Tybed na ddylid creu bwrdd 1 baratoi cynllun o'r awgrymiadau a dderbynnir? Eisoes penododd LIywodraeth Loegr weinidog i baratoi cynlluniau ar gyfer y sefyllfa wedi'r rhyfel. Mae'n amlwg nad yw'r gŵr yma ar ddihun i'r ffaith fod cenedl y Cymry yn bod, ac ofer fydd disgwyl y bydd ganddo unrhyw weledigaeth ar gwestiwn bywyd y genedl Gymreig. Rhaid i Gymru weithio allan ei hiachawdwriaeth ei hunan-ie, "mewn ofn a dychryn." Mewn ofn oherwydd mawredd y cyfrifoldeb. Mewn dychryn oherwydd bod yr argyfwng presennol yn un tyngedfennol. Oherwydd, er cymaint y sôn bod mwy o bobl yn siarad Cymraeg heddiw nag a fu erioed, eto fe ddylai fod yn amlwg i bawb fod yr iaith yn ymladd am ei hanadl einioes. Y mae'n dihoeni'n weladwy. Y mae'r caerau a esgeuluswyd, megis yn hanes Seithenyn gynt, yn awr yn araf falurio o flaen ein Hygaid. Y mae