Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BEIRDD A BEIRNIAID HEN GOLWYN Byddaf yn ceisio dychmygu weithiau sut mae beirniad eisteddfodol o'r iawn ryw yn mynd ati. Credaf y gallaf ei weld yn eistedd yn ei gadair freichiau, y "cyfansoddiadau" o'i flaen, a thri phensil wrth ei ochr. At farcio'r copiau y mae rhain: un coch ar gyfer y gwallau cynganeddol, un glas ar gyfer y beiau mewn iaith a chystrawen, ac un du cyffredin (fe fydd galw mawr am hwn) at gywiro'r sbelio. Yna dechrau beirniadu, linell ar ôl llinell, copi ar ôl copi — a'r "cyfansoddiad" â Ueiaf o ôl pensil arno fydd yn ennill. Wrth ddarllen Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Hen Golwyn, ni allwn lai na theimlo bod rhyw gymaint o sail i'm dychmygion. Oherwydd fe geir ynddo fwy na digon o feirniadaethau yn yr hen ddull diflas o ymdrin yn beiriannoí ag allanolion, fel pe bai beirniadu awdl yn waith cyn hawsed â darllen proflenni. Temtir fi i ddyfynnu, ond gwell peidio, efallai: gall pwy bynnag a dalo hanner- coron gael ei wala o gynnyrch yr injin feirniadu. Eto i gyd, rhydd y gyfrol brofion diddorol bod ihod beirniadaeth yng Nghymru, sydd wedi sefyll cyhyd, yn dechrau troi eto, er yn bur wichlyd ac ansicr. Tynged anorfod pob mudiad a gychwynnir gan arloeswyr mawr yw ei gario i eithafion gan ddilynwyr bach. Dyna'n ddiau a ddigwyddodd i Ddiwygiad ieithyddol ddechrau'r ganrif. Yn sgîl yr enwogion cododd to o fân ddisgyblion ac awdurdodau aii-law, ac yn null arferol yr expert aethant ati i ymdraíîerthu fwy a mwy ynghylch llai a llai, gan roi i fanion bethau'r gyfraith, pwyntiau dibwys cystrawen ac orgraff, sylw oedd y tu hwnt i bob rheswm. Tyfodd gormes geiriau yn fwrn ac yn faich ar lenyddiaeth Gymraeg. A gofiwch chi am y dull poblogaidd o adolygu llyfrau ryw bum mlynedd yn ôl, pan oedd y mudiad yn cyrraedd ei gleimacs? Bryd hynny nid oedd rhoi rhestr o'r gwallau sbelio yn ddigon: yr oedd yn rhaid nodi holl feiau'r wasg yn ogystal, "er mwyn eu cywiro yn yr ail argraffiad"! A phrin y meiddiai'r un llenor cyffredin gyhoeddi llyfryn heb sicrhau'r byd fod hwn-a-hwn, M.A., wedi darllen y llawysgrif "a'i gywiro." Ond daeth arwyddion ers peth amser, bellach, fod awduron a darllenwyr fel ei gilydd yn gwingo yn erbyn symbylau'r gor-ddysgedigion a, gwaeth fyth, yr hanner- dysgedigion, a fu hyd yn ddiweddar mor fawr eu parch ac mor uchel eu cloch. O dipyn i beth y mae'r locustiaid llenyddol yma wedi gorfod cilio, cyn gorffen eu gwaith o buro Ilenyddiaeth Gymracg allan o fodolaeth. Nid lladd ar wir ysgolheigion yr wyf, gan nad wyf fi'n gymwys i'w bychanu na'u mawrygu, ond ceisio dweud fy marn onest am yr ugeiniau o fân awdurdodau ieithyddol: pe bai'r rhain wedi cael