Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TROI'R DALENNAU I T^ichon y poenir Ilawer ohonom gan y rheini sy'n hoff o ddangos y lluniau prentis- aidd a dynnwyd ganddynt yn ystod gwyliau haf. Rhyw erchyll bethau o ddu a gwyn a fyddant fel rheol, a rhaid bod yn ofalus wrth ateb y cwestiwn, "Pwy a adwaenoch chwi yn y fan yma?" Hwyrach i mi fy hun fod yn euog o'r un camwedd gynt. Ond fe sylweddolais fod fy nghamera yn rhywbeth amgenach na blwch i dynnu lluniau cyfeillion mewn rhyw sefyllfa ynfytach na'i gilydd. Ers blynyddoedd bellach y mae'r camera yn ffrind hanfodol imi ar wyliau haf, ac nid oes nemor anturiaeth yn fy hanes na fu'n cyfranogi ohono. Crwydrasom Gymru a Lloegr gyda'n gilydd, ac y mae gennym ein dau atgofion a chyfrinachau na wyr neb arall mohonynt. Gan mai Almaenwr yw o ran gwaed, golygodd gryn drafferth imi yn Dover a Folkestone ambell dro, gan mai arno ef y syithiai llygaid craff swyddogion y doll yn gyntaf peth, ond ni hoffwn grwydro'r cyfandir heb ei gwmni. Bob tro y dychwelwn ni'n dau bydd gennym bentwr o ffilmiau. Dyna'r cynhaeaf a gasglwyd o grwydro. Erbyn gorffen printio'r lluniau a'u glynu mewn albwm, bydd helyntion y daith yn sicrach ar gof a chadw. Gellir eu dangos i eraill, ond y camera a minnau'n unig a deimlodd y profiadau rhyfedd sydd y tu ôl i'r cwbl-prydferthwch Llyn Cwellyn neu Lyn Gwynant ar fore o haf, a thynnu o'r "heulwen ysblennydd Ar len y dwr lun y dydd"; medd-dod golygfeydd Llys Luzern; rhamant hen gastelli Rhein; sgwrs ag arwein- yddion Plaid Genedlaethol Llydaw; yr ias a deimlwyd o fod ar goll yn heolydd culion Tangier. Erbyn hyn, gan nad oes bosibilrwydd i'r camera a minnau grwydro rhyw Iawer, rhaid bodloni ar ail-droi tudalennau'r albwm, a cheisio felly dynnu rhyw rin o'r gorffennol, ac ail-fyw y profiadau a gafwyd. Ac wrth ddangos y lluniau i eraill, gobeithio nad anniddorol fyddant. II Yn hollol naturiol, darluniau cyntaf yr albwm yw rhai o'm hardal i fy hun, sef Llanystumdwy, Sir Gaernarfon, pentref y gwyr pawb amdano am mai yno y maged Mr. D. Lloyd George. Gorwedd hanner y ffordd rhwng Pwllheli a Phorthmadog, pentref o rhyw ddeugain o dai, tair siop a llythyrdy, tafarn ac ysgol, tri Ue o addoliad, neuadd, a phont.