Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gyrfa seneddol a orffennodd fel Arglwydd Reading, y Prif Farnwr, trodd yn ddiplo- matydd a bu'n cynrychioli Prydain yn Washington cyn mynd i'r India am bum mlynedd cyffrous. Ac yn ystod bIynyddoedd olaf ei oes bu'n Ysgrifennydd Tramor i'r Llywodraeth Genedlaethol yn 1931. Sgweier Llanystumdwy oedd Syr Hugh Ellis Nanney y Gwynfryn, ac fe ymladdasai ddau etholiad yn aflwyddiannus cyn lecsiwn 1890 ym Mwrdeisdrefi Arfon. Nid oedd ei ddylanwad ef a thirfeddianwyr y sir yn ddigon i sefyll yn erbyn Cenedlaeth- oldeb ac Anghydffurfiaeth, prif blanciau nai y crydd. Yr oedd Ellis Griffith gyda Thomas Gee a chewri eraill yn siarad dros Lloyd George adeg etholiad 1890, a'r adeg honno yr oedd huodledd Aelod Seneddol Môn eisoes yn ddihareb. Pan fu gwrthryfel yn y Blaid Ryddfrydol yn 1894, ac i'r Cymry sylweddoli nad oedd lle i'w delfrydau yn fframwaith y blaid, yr oedd Herbert Lewis wrth ochr Lloyd George, D. A. Thomas, a Frank Edwards. A phan drowyd Lloyd George o'r Senedd yn y dyddiau cynnar am wrthod ufuddhau i'r Siaradwr, fe "enwyd" Herbert Lewis hefyd. Onid naturiol, felly, oedd fod lle cynncs iddo yng nghalon pobl Llanystumdwy ? Bu Ellis Davies hefyd yn dipyn o arwr yng ngolwg y rhai mwyaf chwith o'r Rhyddfrydwyr yn yr ardal, cyn iddynt droi at y Blaid Lafur. Fe orffennodd ei yrfa Seneddol yng nghanol ei ddyddiau ar ôl cynrychioli Sir Gaernarfon a Dinbych yn NhY'r Cyffredin. A dyna William George, a weithiodd gymaint dros ddiwylliant, dirwest a Llyw- odraeth Leol yng Nghymru. Credwch fi, y mae'r tri llun sy gennyf o seremonïau'r diwrnod hwnnw ymhlith fy nhrysorau pennaf. Lerpwl. O. E. ROBERTS. YMSON YR ANGHYDFFURFIWR A'I DDUW ("The archdeacon's s gaiters are the surest symptom of a decayed Christianity; so also is the clerical collar.Sylw gan y Prifathro John Morgan Jones yng Nghynhadledd Genhadol y Barri, 1940) O Arglwydd Dduw! dod im Dy ras I weld Dy ddelw yng ngwedd Dy was, A gad im synhwyro yn hwn yn awr Wir odidowgrwydd Dy hunan mawr: