Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhwymau cariad am ei ddwy goes, Rhyfedd dosturi yn aur ei groes, A santeiddrwydd gwiw ym mrethyn du Gwasgod yr archddiaconaidd lu; Urddas y saint yn ei siwt ddi-blèt, A'u gwastadrwydd prudd yn fflatrwydd ei het, Heblaw'r "ystyr hud" yn ei goler ef- i Y ddolen gydiol rhwng daear a nef Pam nad estynni i minnau'r fraint O fod yn un o'th glerigol saint? "Digon i ti fy ngras," medd Duw, "Rhag pydredd yr offeiriadol griw." DYDDIADUR CYMRO YR wythnos hon gwelais nifer o blant yn mynd i'r Ysgol Sir am y tro cyntaf i gychwyn ar eu gyrfa yno, a dechreuais feddwl am yr effaith a gaiff eu bywyd newydd arnynt. Hyd yn ddiweddar, byddai nifer o blant y wlad yn gorfod aros yn y dref drwy'r wythnos, mewn tai llety, a mynd adref dros y Sul; a phan gyhoeddwyd Adroddiad y Pwyllgor Adrannol, dan lywyddiaeth yr Anrhydeddus W. N. Bruce, ychydig dros ugain mlynedd yn ôl, soniwyd am hosteli i'r plant hyn. Ond ni ddaeth dim o'r awgrym; ac erbyn heddiw, mae'r trefniadau teithio ar y bysus yn weddol hwylus, fel y gall y rhan iwyaf o'r plant fynd o'u cartrefi bob bore a dychwelyd gyda'r hwyr. Cadwant felly eu cysylltiad â'u cartrefi'n well nag y gellid genhedlaeth yn ôl; eithr yn y cyfamser datblygodd bywyd yr ysgolion canolradd ar yr ochr gymdeithasol, a chymer yr ysgol fwy a mwy o amser y plentyn. Daeth hefyd ddylanwadau eraill o'r tu allan i effeithio arno ac i'w dynnu oddi wrth hen wreiddiau ci gartref a'i gapel neu'i eglwys. Datblygodd bywyd cymdeithasol yr ysgol, mae'n wir; ond gellir gofyn ar yr un pryd a ydys mewn gwirionedd yn meithrin, drwy gyfrwng yr ysgolion, ddinasyddion da, a hwythau'n ddinasyddion o Gymry. Nid gwaith y gellir yn hawdd ac yn effeithiol ei wneuthur yn swyddogol mo hyn: ni theimlaf innau, beth bynnag, fod llawer o fudd o ddysgu "Civics" i'r plant fel yr amcenir weithiau. Yn hytrach, y peth angenrheidiol ydyw i'r ysgol ei hun fod yn gymdeithas effro, gref, ac i'r sawl a â iddi yn ddisgybl ymdeimlo'n naturiol â bodolaeth y gymdeithas honno. Dyna gryfder ysgolion bonedd Lloegr (yr wyf yn ddyledus i gyfaill am y term hapus hwn i ddynodi "public schools"), er gwaethaf eu diffygion: geill yr unigolyn dyfu'n naturiol yn aelod o'r gymdeithas y bydd iddo ei gael ei hun yn perthyn iddi. Ar y llaw arall, hyd yn ddiweddar, un o'r diffygion yn yr ysgolion hyn ydoedd eu MORGAN LLWYD EI WYNEB.