Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AM GYSTADLU* Uwchben pryd o fwyd yn Hen Golwyn fe ofynnodd y golygydd i mi a fuaswn yn sgrifennu adolygiad iddo ar gyfrol y Beirniadaethau a'r Cyfansoddiadau 'a gyhoeddasid y diwrnod hwnnw; tasgodd fi i'w darllen rhag blaen a gyrru swm fy noethineb iddo ar y diwedd. Yr oeddwn newydd ddarfod pryd o fwyd campus ac mewn hedd â phawb, ac addewais yr adolygiad. Edifarhaf erbyn hyn, oherwydd nid gwaith hawdd sydd o'm blaen. Ar wahân i'r cyfansoddiadau, adolygiadau a beimiadaeth.au pwyllog yw sylwedd y gyfrol ei hun, a'r peth cyntaf a deimlir wrth ei darllen yw mai hyfdra wynebgaled a fuasai tynnu dim oddi wrth y beimiadaethau hyn nac ychwanegu dim atynt. Fodd bynnag, fe geisiaf roddi argraff dyn cyffredin o'r gyfrol, gan gyffwrdd yn unig â'r beimiadaethau a'r cyfansoddiadau hynny a'm diddora fwyaf. Ymhlith y beimiadaethau, y rhai hynny ar y farddoniaeth a'm difyrra fwyaf bob blwyddyn- nid am fy mod yn fardd, na ato i neb feddwl hynny am eiliad. Ond o edrych ar y peth o safbwynt allanol, neilltuedig megis, fe ymddengys i mi fod yr ymarfer o ddethol y farddoniaeth Gymreig orau am y flwyddyn trwy gystadleuaeth yn beth rhyfedd ac arbennig. Ystyrier y peth fel hyn. Fe osodir dwsin neu bymtheg o ddynion neu ferched i redeg râs hanner milltir, dyweder, ac fe gynigir cwpan neu lawryf i'r buddugwr. Y rhedwr buanaf a enilla, eithr ni raid wrth graffter meddwl a dychymyg i ddewis y buddugwr­-mewn râs, y tâp gwyn sy'n penderfynu hynny, a chan nad faint o ddadlau a ellir ymhlith y beirniaid ynghylch pwy a'i cyffyrddodd gyntaf y mae'r ffaith yn aros fod rhywun wedi ei gyffwrdd (os na ddiffygiodd y cwbl o'r rhedegwyr yn lân hanner y ffordd). Ni all y sawl a fedro byth bcidio ag ennill râs, oherwydd bod y tâp yn sefydlog. Yn awr, dyna gystadleuaeth syml, lle y gellir dweud yn syml­iwele'r safon, y cyntaf i'w gyffwrdd yw'r buddugwr. Y mae pawb yn cystadlu yn yr un ffordd, trwy redeg; y mae'r cwrs yr un hyd i bawb ac yn unffurf i bawb. Y mwyaf egnïol sy'n ennill, ac y mae'n rhaid i bawb sy'n gwylio gydweld mai'r blaenaf yn y râs yw'r cyntaf yn y gystadleuaeth. Eithr gyda chystadleuaeth am goron neu gadair Eisteddfod nid yw'r sefyllfa hanner mor syml. Gan na cheisiais erloed, ni wn o brofiad sut y bydd cystadleuydd yn teimlo wrth fynd ati i lunio ei gân. Os mai un testun a roddir, gallwn dybio ei bod yn rhaid iddo sylweddoli y bydd amryw yn canu i'r un peth ag y cân ef, ac felly y bydd yn rhaid iddo, os yw am ennill, benderfynu canu'n well na'r lleill. Os bydd tri thestun i'r bryddest, gall ddweud, "Rhaid i mi ganu'n well i Beiriannau nag y cân x i Facsen Wledig neu y i'r Dyffryn. Hai ati felly." Nid wyf am haeru mai dyna, fel mater o ffaith, a ddywed pob cystadleuydd, ond yr wyf yn haeru mai Cyfansoddiadan a Beirniadaethau Eisteddfod Hen Golwyn, 1941. 2s. 6d.