Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Câi'r sawl a fynnai, ganu felly pryd y mynnai i'r hyn a fynnai; bychan efallai a fyddai'r cynnyrch, ond buasai'n rhwym, gredaf i, o fod yn fwy bywiol ac yn fwy diffuant. Rywsut y mae'n rhaid dyfeisio ffordd hefyd i'r cyhoedd Cymreig fel coriî bwyso a beirniadu; addefaf yn rhwydd na wn sut, ac addefaf fod anawsterau anferth ar y ffordd, a bod llawer i'w ddweud dros y cynllun presennol. Fe ddylesid rhoi llawer mwy o sylw trefnus i'r cyfansoddiadau buddugol yn yr ysgolion a'r colegau, wrth gwrs. Paham na ellir rhoi'r cyfrolau hyn yn waith gosod bob blwyddyn ar gyfer Arholiad Uwch y Bwrdd Canol neu arholiadau Cymraeg y Brifysgol? Fe wn, o brofiad, y gall myfyriwr fynd trwy gwrs ieitheglyd a gradameglyd dosbarth anrhydedd Cymraeg ym Mhrifysgol Cymru a graddio yn y dosbarth cyntaf heb ddarllen cymaint ag un llinell o farddoniaeth na beirniadaeth lenyddol Gymraeg y deng mlynedd diwethaf. Rywfodd, y mae'r syniad yn bod yn yr ysgolion nad doeth cyffwrdd llenyddiaeth ddiweddar oherwydd ei fod-fe1 trwyth ysgaw neu gwrw brag-yn cymryd amser i waelodi. Ond atolwg pwy a beth a bair iddo waelodi? Rhaid gadael y drafodaeth yn y fan hyn am y tro. Y mae'r gyfrol yn un hynod ddifyr, ac y mae'r cwbl o'r cyfrolau hyn yn ddogfennau holl-bwysig i'r myfyrwyr prin hynny a ymddiddorant yn nhwf a gogwyddiadau beirniadaeth lenyddol Gym- reig gyfoes. Hyn yw eu gwerth pennaf, yn feirniadaethau a chyfansoddiadau Rhyw ddydd efallai y daw cân fawr a fydd yn codi o ddalennau'r gyfrol ac yn cerdded drwy Gymru benbaladr. Ac yn olaf oll, y mae un jôc yn aros y darllenydd ar ddiwedd y gyfrol. Honno yw beirniadaeth Saesneg y cerddorion hynny o'r "hen sgŵl" sy'n parhau i gredu o hyd na ellir siarad yn ddysgedig, diwylliedig nac argyhoeddiadol ond yn yr iaith honno. Achyfi. D. Tecww LLOYD. GOHEBIAETH CYNLLUN CAERDYDD SYR, Brawddeg yn rhifyn Awst-Medi a bair imi ysgrifennu, brawddeg foel gan Ben- weddig yn "Nyddiadur Cymro." Dyma hi: "Methiant fu'r ymgais"; hynny yw methiant fu ymgais Caerdydd i sefydlu ysgol debyg i ysgol wych Aberystwyth. Dywedwn mai camarweiniol yw'r gosodiad uchcd. Rhydd yr argraff fod ymdrechion Caerdydd ar ben, ac iddynt fethu'n llwyr. Yn awr, gWyr y cyfarwydd yn eithaf da mai ymgais oedd hon ar y cychwyn i sefydlu ysgol breifat; i foneddiges ddiwylliedig, Cymraes i'r cam, addo deg punt y flwyddyn am saith mlynedd; i wr bonheddig hael arall, brodor o gefn gwlad y ddmas, ddilyn ag addewid o'r un swm am yr un cyfnod; ac i bwyllgor arbennig