Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Nid methiant a welwn yn hwn ychwaith ond llwyddiant, am fod diwydrwydd ychydig o'r ddinas wedi esgor ar gynllun i Gymru gyfan. Sefydlwyd Ysgol Gymraeg Fodern yn Abeiystwyth, a naturiol yw cynliunio ar gyfer Ysgol Breswyl. Y mae'r holl ymgyrch yn deilwng o lwyddo, ac y mae'n debyg o apelio'n arbennig at un adran o gymdeithas. Ar gyfer adran arall y mae cynllun Caerdydd; adran sydd yn tybio y gall y Pwyllgorau Addysg Lleol weithredu'n effeithiol drostynt. Gofyn hyn am nifer o bobl frwd ymhob tref a chymdogaeth i'w ffurfio'u hunain yn bwyllgor byw, effro, gweithgar a fydd yn sicr bod un neu ddau o'u plith a fydd yn barod i fynd o dy i dy, o deulu i deulu sydd â phlant bach ar drothwy byd ysgol, i gael barn ar addysg Gymraeg i'r plant. Pan Iwyddir i gael y nifer penodol, mynner gosod y broblem gerbron y Pwyllgor Addysg Lleol. Nid galwad i ysgrifennu mwy a mwy yw hon, ond galwad i waith caled ym- arferol ymhlith ein cyd-genedl. Gwyn M. Daniel. CENEDL DDIRYWIEDIG YNTEU NOFELWYR DIRYWIOL? NID ydwyf yn darllen llawer o nofelau Saesneg, ond byddaf yn darllen y rhan fwyaf o'r nofelau a'r storiau Cymraeg a gyhoeddir yn gyfrolau. Wrth gwrs, darllenais nofelau a storiau Daniel Owen i gyd flynyddoedd lawer yn ôl. Yn ddiweddar darllenais dri Ilyfr-Sgweier Hafila (T. Hughes-Jones), Storiau'r Tir Cocb (D. J. Williams), Y Wisg Sidan (Elena Puw Morgan)­-yn y drefn yna. Wedi gorffen darllen yr olaf o'r tri, dyma a ddaeth ar draws fy meddwl: Tybed mai cenedl o bobl benwan, dwl, cribddeilgar a chybyddlyd ydyw cenedl y Cymry, ynteu a ydyw ein nofelwyr a'n storïwyr yn rhai dirywiol (decadent)? Oblegid beth a gawn ni yn y tri llyfr a enwais? Dyna Sgweier Hafila i gychwyn. Cymeraf yn ganiataol fod pawb sy'n derbyn HEDDIW wedi darllen y stori. Ynddi rhoir hanes Daniel Jones, Rhos-y-grug (fferm fach dlawd), a fu yn ddigon dwl a diniwed i brynu ystad o ugain acer yn Hafila- "lle y mae yr aur" — yn freehold am ugain punt gan shoewr yn ffair galangaeaf Trewylan. Nid oedd gan Daniel ddiddordeb mewn dim arall wedyn: esgeulusodd y fferm a phopeth araH, a'r diwedd fu iddo farw fel trempyn-wedi gadael ei ystad yn "Hafila" yn ei ewyllys i gapel Blaen-y-cwm. Dyna neges y stori: dyn hanner pan, ond cribddeilgar, yn dirywio. Yn y nodyn ar ddiwedd y llyfr dywedir am yr awdur: "Brodor o Sir Aberteifi ydyw; dywedodd un o'i hen athrawon na allai neb ond Cardi ysgrifennu Sgweier Hafila, ac na allai prif gymeriad y stori honno fod yn neb ond Cardi." 'Wn i