Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

cwestiwn. Gallaf ddeall a mwynhau nofelau Daniel Owen, Winnie Parry a Gwyneth Vaughan; ond ni chafodd y rheini'r fantais o ddadlen ac astudio campweithiau fel Iàsa of Lambeth (yn Saesneg) a Monica (yn Gymraeg). Pan ddeuthum ar draws hanes sipian y cig a'i roi'n ôl yn y crochan yn Y Wisg Sidan, 'd allwn i ddim llai na gofyn i mi fy hun: Tybed a oedd Caradoc Evans yn iawn wedi'r cwbl? Y mae nofelau a stoñau'r awduron Anglo-Welsh yn haeddu erthygl iddynt eu hunain. Ond erbyn ail-feddwl HESCIN. EPIGRAMAU I MYN wybod ieithoedd byd yn llawn, A chynnwys drud y celfau, Ond cywilyddus fydd dy ddawn Os dieithr llên dy dadau. II Y fam heb fedal ar ei bron, Nac anrhydeddau drud, A erys oes y ddaear gron Yn ben holl arwyr byd. III Gochel y gŵr sy'n gloch i gyd Am rinwedd ei weithredoedd; Y sawl a gân ei gorn ei hun Ni wêl byth ddrws y nefoedd. IV Am gofio'r tlawd mewn gweddi hy Maddeued nef fy hoced; Maddeued y gofynion lu A'r ateb yn fy mhoced. V Mi dynnais lun y diawl- Pen cythraul teyrnas Satan: Wrth syllu cefais fraw— Mi welais ynddo f'hunan! D. MARDY JONES.