Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU HEN DDWYLO, gan E. Llwyd Williams. Llyfrau'r Dryw, 1941. is. TVYMA gyfrol yn disgrifio cymeriadau o'r genhedlaeth o'r blaen, a ystyrir erbyn hyn yn òd. Mynych y clywir dywedyd fod addysg ac amgylchiadau'r byd sydd ohoni heddiw yn gwneud cymeriadau yn unffurf, ac nad oes neb mor ddiddorol á'r cymeriadau a adwaenem yn ein mebyd. Dichon mai gwir hynny i raddau, ond dichon hefyd nad yw'r gred yn ddim ond effaith y nudden lwydwen a ymgasgl rhwng blynyddoedd canol oed a phlentyndod, ac y byddwn ninnau'n hunain lawn mor òd i'r genhedlaeth nesaf. Yn wir ni eill fod yn amgen, oherwydd ni wêl neb mohono'i hunan yn òd, ac nid yw ei gyfoedion yn rhyfedd iawn chwaith, gan nad rhyfedd mo'r cynefin fel rheol. Nid oes ond un gŵr yn ein mysg a wêl ddigon o ryfeddod yn ei gyfoedion i fedru eu darlunio ar bapur, a hwnnw yw'r gwir lenor. Am y rhelyw, y mae defnyddiau darluniau lliwgar yn ól yn rhywle yn y gorffennol, ac nid oes gennym yn ami mo'r ddawn i roddi gwisg barhaol llenyddiaeth amdanynt. Yn ddiweddar y mae amryw wedi ysgrifennu am brofiadau ieuenctid. Dyna Hen Atgofion yr Athro W. J. Gmffydd ac Atgofion Tri Chwarter Canrif y Dr. Lloyd Williams, heb enwi ond dau. Y rheswm am ysgrifennu o'r math hwn, geílid meddwl, yw ei fod yn rhan o'r edrych-yn-ôl hwnnw sy'n dyfod i ran pawb ohonom wedi troi'r deg ar hugain oed, ac nid oes ynddo, o anghenraid, ddim ysfa lenyddol, ond fe Iwydda ambcll un i wneuthur ei atgofion yn llenyddiaeth, yn ogystal â bod yn ddogfen hanesyddol. Ni wn yn hollol o dan ba gymhelliad yr ysgrifennodd Mr. Llwyd Williams y llyfr hwn. Yn y Rhagair fe ddywedir fod "darllen llyfrau yn ddiddorol, ond y mae darllen dynion yn fwy diddorol fyth." Pair hyn i ddyn godi ei glustiau, a gofyn ai llenor sy'n llefaru. Traethwyd llawer o bryd i bryd am yr angen i'r llenor ymddiddori mewn dynion, mewn bywyd, mewn cymdeithas; a'r duedd efallai yw anghofio'i bod yn rhaid iddo ymddiddori mewn llyfrau hefyd. Piin y ceir bardd heb iddo ddarllen barddoniaeth, na nofelwr heb ddarllen nofelau, na dramodwr heb ddarllen dramâu. Cynnyrch cynllunio ac adeiladu a gosod ynghyd-mewn gair, cynnyrch crefft yw pob Uenyddiaeth, ac ni ddysgir crefft ond gan feistr. Ni ddaeth llenyddiaeth erioed o ddarllen dynion yn unig. Yn ail baragraff y Rhagair dywaid Mr. Williams am ei "drafferth i osgoi ffurf yr ysgrif a chrefft y stori." Paham y dylid ceisio osgoi'r fath bethau cain a phrin? Mae fel pe dywedai dyn ei fod am wneud dodrefn i'w dy ac osgoi ffurf y bwrdd a'r gadair a'r stôl a'r sgiw a'r soffa. Atolwg, pa iyw gynnyrch a gâi? Teimla dyn wrth ddarllen y Rhagair fod awdur Hen Ddwylo wedi ymdynghedu i beidio ar unrhyw gyfrif â bod yn llenor, yn wir iddo fynd i drafferth i beidio â bod, ac unig gysur y darllenydd yw'r gobaith y bydd iddo fethu.