Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

A methu a wnaeth (os ceisiodd). Mae'n wir fod yma rai penodau digynllun, ac arnynt fwy o nodau sgwrs wrth dân hirnos gaeaf na chyfansoddiad llenyddol; ond y mae dawn y storiwr yma'n gryf iawn, hen ddawn y cyfarwydd Cymreig i raddau helaeth, na faliai am ffurf a chydbwysedd ei stori, ond ei thraethu mewn arddull fyw, a chroniclo sgyrsiau ei gymeriadau nes eu bod 011 yn llamu o flaen ein llygaid yn ystwyth eu cymalau. Geill unrhyw ysgolhaig brofi mai clytwaith yw chwedl Culwch ac Olwen, ac edliw i'r cyfarwydd ei anghysonderau, ond bydd y llenor yn ddiolchgar iddo am y disgrifiad o Olwen ac am stori'r Morgrugyn Cloff. Yn gyffelyb, gallai Mr. D. J. Williams weu stori o gwmpas Bili Gibwn, a'i droi'n un campwaith llenyddol, yn lle'i ddisgrifio fel y gwna Mr. Llwyd Williams. Gallwn edliw i'r aVdur ambell wireb anllenyddol, fel "Araf yw cwrs datblygiad ym myd egwyddor," ac ambell gefnder i'r strôc bregethwrol. Gallwn gwyno nad oes yma ddigon o wahaniaeth rhwng un tramp a thramp arall. Ond ni allai neb ragori ar yr ymson lIe mae Bili Gibwn yn mesur ei fuchedd wrth y Deg Gorchymyn; neu ar dair brawddeg anhygoed Wil Canân am y fellten "Bu lle rhyfedd yn y tŷ 'co neithiwr. Daeth y fellten i lawr drwy'r simne a chwarae'n rhubanau i gyd o gylch y tân. Bu raid imi godi ac agor y drws iddi fynd allan, rhag ofn iddi wneud difrod"; neu ar rapsodi John Foley i'w de gorau: "Y mae'n anodd siarad am hwn heb fod yn sgolor mawr. Dim ond y pinshyn lleiaf o hwn sydd eisiau. Da chi, os prynwch chi hwn, byddwch yn ofalus. Y mae perygl i hwn fwrw clawr y tebot i fyny'r simne, os defnyddiwch chi ormod ohono." Ie, dawn y storïwr llafar sydd amlycaf yma. (Onid ar lafar yr oedd chwedlau'r cyfarwyddiaid gynt i gychwyn?) Ond y mae digon o arwyddion o'r stori'wr llenyddol hefyd i beii credu y bydd i'r awdur ryw ddydd ysgrifennu heb geisio osgoi crefft y stori. Llyfr diddan, Ilyfr á'i awdur mewn tymer dda, llyfr sy'n ardal gyflawn ynddo'i hun, yn llawn cymeriadau a chlecs diwcnwyn-dyna a deimlais i wedi darllen Hen Ddwylo, a diau y teimla llawer yn gyffelyb. Da fuasai pe rhoisid mwy o sylw i gywirdeb mewn manion yn yr iaith. STORÌAU GWALLTER MAP, gan R. T. Jenkins. Rbif 6 o Lyfrau'r Dryw, 1941. Tdd. 60. ií. ER nad yw'n debyg fod fawr o waed Cymreig yng ngwythiennau Gwallter Map, gwyddai lawer am Gymru. Fe'i ganwyd ar y gororau tua'r flwyddyn 1140, ac yr oedd ar delerau siarad â rhai o arweinwyr y Normaniaid a ymsefydlbdd yn Neheudir Cymru. Bu'n un o wyr llys Harri'r Ail ac yn archddiacon Rhydychen. Teithiodd yn helaeth yng ngwasanaeth ei frenin yn yr ynys hon ac ar y cyfandir. Fel ei gyfaill, Gerallt Gymro. yr oedd yn gwmnïwr da, ac fel hen lane a welodd dipyn ar y byd yr oedd ganddo ystôr helaeth o chwedlau ac atgofion am a welodd ac a glywodd ar ei deithiau. Nid oedd yn gystal llenor â Gerallt, a phrin ydoedd ei amynedd a'i hamdden i ysgrifennu traethodau manwl. Er hynny, y mae ei storiau yn drysorau i'r neb a gymer ddiddordeb mewn Ilên gwerin ac yn ddrych gwerthfawr i fywyd y ddeuddegfed ganrif.