Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

å GWASG GEE Cefnogwch ffyrm gwbl Gymreig sydd a thraddodiad hirfaith y tu ôl iddi. GEILL ein HADRAN ARGRAFFU droi allan bob math o argraffu-o boster hyd lyfr. Pob gwaith cain megis cardiau priodas, cardiau gwahodd, cardiau ymweled, etc. GEILL ein HADRAN RWYMO roddi ffurf barhaol i gylchgronau y mynnwch eu cadw. Rhwymir hefyd Feiblau, Llyfrau Emynau, etc. GEILL ein HADRAN BAPUR eich cyflenwì â phob math o bapur sydd ar y farchnad-papur sgrifennu, amlenni, llyfrau nodiadau o bob math, ctc, GEILL ein HADRAN GYHOEDDI roddi i awduron eu llyfrau ar y farchnad yn y modd mwyaf effeithiol. Y mae ein cynrychiolwyr mewn cyswllt cyson â llyfr- werthwyr Cymru. Yn yr adran hon hefyd ceir rhai o lyfrau cyfoes gorau'r iaith-gwaith Kate Roberts, I. D. Hooson, etc. GEE hefyd sydd yn cyhoeddi prif bapur cenedlaethol Cymru-Y Faner—sydd a'i gylchrediad yn cynhyddu wythnos ar ôl wythnos, a Heddiw, y cylchgrawn Cymraeg misol cenedlaethol. HYN YN UNIG O GYFEIRIAD SYDD EISIAU: GWASG GEE, DINBYCH