Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TYBED? "The Archdeacon's gaiters are the surest symptom of a decayed Christianity; so also is the clerical collar"—Sylw gan y Prifathro John Morgan Jones yng Nghynhadledd Genhadol y Barri, 1940, yn ôl dyfyniad "Morgan Llwyd ei Wyneb" yn Rhifyn Rhagfyr-Ionawr o HEDDIW. YN ei het gantal lydan a'i golar crwn Aeth heibio i'w gynnar offeren, Gyda chroes fach aur ar ei wasgod ddu A'i Grist ynghrog ar ei thalcen. Fe all nad oedd neb ond efô a'i Grist Wedi codi i'r offeren, gynnau, Ond flediodd yr Aberth Mawr dros bawb Wrth yr allor yng ngolau'r canhwyllau. A beth os oedd gwisgoedd ei urdd am ei gefn Ac yntau'n ymgroesi ac ymgrymu, A bod yn well ganddo ailadrodd gweddïau Saint Na dibynnu ar ei frest i'w nyddu; Fe all fod ei Dduw'n ddigon farod bob tro I gyrraedd ei galon trwy symbol, Ac mai gwell ganddo Yntau weddïau hen saint Na rhetoreg fodern ysgubol. A syn fyddai credu ddirmygu o Dduw Arwyddlun o'i groes ar frethyn, Ac mai cas ganddo weled meidrolyn gwan Yn dangos i bwy y perthyn. Llannefydd. G. J. ROBERTS.