Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TROI'R DALENNAU WRTH droi dalennau'r albwm lluniau nid yw'n angen- rheidiol edrych yn fanwl ar bob dalen yn ei thro. Pan ddigwydd rhywbeth a dery dant yn y côf gellir troi i ddalen arbennig, ac aros yno i synfyfyno. Ac wrth glywed cymaint yn ddiweddar am ymosodiadau'r Llu Awyr ar orllewin yr Almaen, naturiol yw imi droi i edrych ar luniau sydd gennyf o wyliau yno. Fel bechgyn eraill tua deg oed, breuddwydiodd fy nghefnder a minnau lawer am grwydro gwledydd pellenig. Dylanwad Ballantyne, Marryat a Stevenson oedd arnom yr adeg honno (cyn dyddiau E. Morgan Humphreys a R. Lloyd Jones), a glesni'r lagwn a thraethau coral Môr y Dê a'n hatdynai. Treuliasom oriau lawer ar bont Rhydy- croesau yn adeiladu Hong hwyliau (yn ein meddwl), a'i hwylio ar draws y byd. Yn ddiweddarach sylweddolodd fy nghefnder beth o'r breuddwydion hynny, gan iddo fynd i'r môr am flynyddoedd. Crwydro'r cyfandir a fu'r agosaf i mi i'w sylweddoli. "Draw dros y don mae bro dirion" meddem yn y dyddiau gynt, ond gwyddom ein dau bellach mai "Ynys Afallon ei hun sy felly." Er hynny, hoffaf weled drosof fy hun olygfeydd ysblennydd gwledydd tramor. Hoffaf fod ar goll yng nghanol Almaenwyr neu Ffrengwyr neu Swisiaid, a cheisio dod o drybini gyda chymorth geiriadur chwecheiniog o siop Woolworth. Y mae pawb ohonom a fu'n crwydro'r cyfandir yn gofidio gweld rhyfel yn anrheithio'r gwledydd y cawsom ni groeso ynddynt gynt. Daw enw un lle ar ôl y Hall ag atgofion am ddedwyddach dyddiau. Teimlaf chwerwder o glywed am fomio Colôn a chofio'r Eglwys Gadeiriol y cymerwyd chwe chan mlynedd i'w hadeiladu. Daw pang