Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

i'm calon o sôn am y Llu Awyr dros Goblens, y dref bryd- ferth honno lle yr una'r Mosel â'r Rhein, lle y treuliais beth o'm wanderjahre, a meddwi mwy ar y golygfeydd nag ar y gwin yn y weinstube neu'r cwrw yn un o'r gerddi o dan y coed. Ar y daith deirawr a hanner o Dover i Ostend cyfarfu- asom â dau Gymro ar fwrdd y llong, un â'i wyneb tua Brussels a'r llall ar ei ffordd i Freiburg. Wedi treulio rhai oriau yn Ostend, cawsom drên tua hanner nos. Mentrwyd i'r trydydd dosbarth. Fe arbedem dipyn go lew o arian felly, yn hytrach na'r ail ddosbarth. Er hynny, yr oedd yn gryn edifar gennym wrth deithio'n annifyr ein byd, a'n hysgwyd yn annhrugarog ar reilffyrdd Belgium, oblegid nid yw'r trydydd dosbarth ar y cyfandir ddim byd tebyg i'r cerbydau hynny ym Mhrydain. Seti pren, caled, sydd yno, fel seddau capel. Cyrhaeddwyd y Ilinell derfyn rhwng Belgium a'r Almaen yng ngorsaf Aachen (Aix-Ia-Chapelle), a da oedd cael disgyn yno i ledu'n coesau, tra'n dangos y pasport a chyhoeddi faint o arian oedd gennym. Dyma un o groes- ffyrdd enwog Ewrop. Trwyddi y cerddodd gynt lengoedd Rhufain. Yno y claddwyd Siarlymaen. Dyna ni o'r diwedd yn yr Almaen, ac mewn llai na dwy awr yr oeddym yng Ngholôn. Çyn gynted ag y deuwch allan o'r orsaf, gwelwch eglwys gadarn yr ochr arall i'r ffordd. Yn araf rhed eich llygaid i fyny'r mùriau a'r ffenestri. I fyny, i fyny, nes yr edrychwch i'r entrychion. Dyna'r Dom, fel y gelwir yr eglwys gadeiriol, yn farddoniaeth mewn carreg. Ofnaf heddiw glywed ei dinistrio, eglwys a welodd draean y canrifoedd ers amser Crist yn mynd heibio, ac nid oes ei pherffeithiach yn y byd fel eglwys Othig. Buom mewn gwasanaeth yno un noson yng nghwmni sgowtiaid o Ddenmarc. Edrychai'r eglwys fawr fel rhyw ogof i ni y noson honno, a rhyw seremoni o'r dyddiau pell yn mynd