Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

WELE, Y MAE'R PRIODFAB ^YN DYFOD "ALBERT!" Brathwyd ei galon gan fraw pan glywodd y llais. Sut yn enw Duw y gallai ei fam fod yma ? "Albert!" Ond hyd yn oed wrth iddi alw'r ail dro fe dorrodd ei feddwl yn rhydd. Y fath ofn sydyn, a'r fath ryddhad gwyrthiol! Diolch i Dduw! Nid oedd wedi cael ei ddrysu mor ofnadwy o'r blaen. Daeth y llais eto, llais digyIneriad-heb ddim brys na braw ynddo, heb ddim cythrudd. "O'r gore!" Agorodd ei lygaid, ond dan hud ei freuddwyd diRanedig yr oedd ei feddwl yn wag. Ac yna'n sydyn gwawriodd arno mai dyma ddydd ei briodas. Yr oedd yn hollol effro yn awr, ond fe barhaodd i orwedd yn y gwely, yn gorfod cydnabod wrtho ei hun nad oedd ynddo y cyffro yr oedd wedi disgwyl ei deimlo yno. Nid oedd arno yr un cymhelliad i symud; ond yr oedd ei ymnvymiad di-alw'n-ol i briodi heddiw yn drech na'i ymwybyddiaeth anesmwyth o anfodlonrwydd. Codi'r dillad gwely, felly, ac ymwthio allan i'r awyr oer; ac wrth wneud hynny, meddwl: mor wahanol fyddai hi bore 'fory! Ond nid oedd iddo ddim pleser yn y syniad. Gallai cynifer o ymdrechion poenus ddod cyn bore 'fory. Gadawodd i drowsus ei byjamas syrthio, ac wrth iddo ymwisgo mewn trowsus a fu'n gorwedd ar gadair, fe ddaeth yr un syniad eto: mor wahanol bore 'fory! Ond syniad diflas ydoedd: yr oedd wedi ei bron o'r blaen ddwsinoedd o weithiau, wrth ragweld y foment yma, wrdi fwynhau ymlaen Haw y teimlad o ymddiosg yn wirfoddol