Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'Nawr 'does neb yn y byd cyfan sy'n gwybod lle'r ydym na beth yr ydym yn 'neud." "Mae'n iawn 'nawr, ond pan awn ni'n ôl at dy fam fe fyddan' nhw'n ennill yn eitha' cyRym." v Yr oedd ei anghysur yn codi eilwaidi. "O anghofìa amdano. Gad imi deimlo dy fod yn falch cael fy mhriodi i." Wrth ei chofleidio yr oedd Albert heb fwriadu'r cusan a fyddai, fel yr oedd wedi gwybod erioed, yn uchafbwynt i'w holl gusanau. Ond mor eiddgar oedd y ferch! Ynddi hi o leiaf yr oedd bendith yr Eglwys yn ddigamsyniol ac yn ddioed. Ar y ffordd yn ôi i dê fe chwarddodd Albert yn rhydd ac yn uchel, a chyfaddefodd nad oedd erioed wedi bod mor ddedwydd. Yr oedd y bobl gartref, yn eu gwybodus- rwydd sarhaus, di-alw-amdano, wedi cael eu twylio: ni allent hwy wybod fyth. Nantyglo. IDRIS WILLIAMS. RHAMANT YR UNIGEDDAU 'ROEDDWN yn aros yng nghanol gwylltineb mynydd-dir Cymru mewn amaeth-dy hynafol, a welodd lawer brwydr a llawer rhamant o dro i dro. Amgylchid ef gan fynyddoedd cribog serth. Ar un ochr codai mynydd bygythiol "Oer ei drum garw ei dremynt." Ac ar yr ochr arall codai gallt fawreddog, ac ymunai traed y ddau i wneud un o'r glynnoedd prydferthaf a welais erioed. Swper am wyth yn y wlad a chaed ein gwala. "Daeth min yr hwyr a'i hyfryd hedd." 'Roedd rhyw- beth yn ein galw ni allan, ac fel pe mewn ateb i'r Ìlais megis, dyma ni yn "Hwylio hyd lwybrau helaeth." Wedi hir-ddringo cyraeddasom gopa'r mynydd. Ni allasem