Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYDDIADUR CYMRO SUL GALLAF i dy glywed di A elli di fy nghlywed i Gallaf i dy weled di A elli di fy ngweled i Drwy harddwch hael Duw Celi? Gallaf i dy sawru di A elli di fy sawru i Gallaf i dy deimlo di A elli di fy nheimlo i LLUN Duw Cariad yw, a Sancteiddrwydd, a Doethineb. Priodoleddau deilliadol a pherthnasoi yw hollailuogrwydd a hollwybodaeth a hollbresenoldeb. Y CYMUN I ANGELO Er gwaethaf clebar y dref. Er gwaethaf clebar y nef? Drwy'r heulwen ar yr heli. Rhwng blodau'r maes a'r dail. O blith y chwys a'r tail? Drwy'r hen dywarchen drist. Wrth deimlo clwyfau Crist?