Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SADWRN I RYWUN O diolch iti, gyfaill, diolch iti: Tydi a'm dug i'r Tad sydd wrth y llyw. Tydi a ddwedodd, "Cap'n, dyma Davies, Llaw newydd swil," a "Davies, dyma Dduw." SUL Felly, frodyr. Yr ydych am adnabod Duw. Ond sut y gall creadur adnabod yr Hwn a greodd bob creadur? Clywch gyngor yr hen Irenaeus: '`. Ond o ran ei gariad adnabyddir Ef bob amser drwyddo Ef yr ordeiniodd bopeth drwyddo. Dyna ei Air, ein Harglwydd Iesu Grist, yr Hwn, yn yr amseroedd diwethaf, a wnaethpwyd yn ddyn ymhlith dynion, fel yr unai'r diben â'r dechrau, sef dyn â Duw." Y fendith, a'r gogoniant, a'r doethineb, a'r diolch, a'r anrhydedd, a'r nerth, a fyddo i'n Duw ni yn oes oesoedd. Amen. DAVIES ABERPENNAR. CYWIRIADAU Awdur Yfwch Eich Gwala, y stori fer yn rhifyn Chwefror-Mai o Heddiw, oedd George Davies, Treorci. Hefyd, ymddiheurwn am adael enw Tom Parri, Bangor, allan o'i adolygiad ar Hen Ddwylo (Llyfrau'r Dryw) a ymddangosodd yn rhifyn Rhagfyr-Ionawr.