Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU BYD A BETWS. Cerddi gan Saunders Lewis. Gwasg Aberystwyth, 1941. Pris Swllt. DECHREUAIS y gyfrol hon gyda'r soned effeithiol "Rhag y Purdan." Ydyw, mae'n soned effeithiol-a dyna'i gyd. Troi wedyn at "Y Dilyw" Mae'r tramwe'n dringo o Ferthyr i Ddowlais, Llysnafedd malwoden ar domen slag; Wel, mi ymsoniais, os yw Iorwerth Peate, chwedl Saunders Lewis, yn ail- ysgrifennu telynegion W. J. Gruífydd yn ddiweddar, wele Saunders Lewis yn amcanu'n dda at ail-ysgrifennu cerddi Gwenallt. Ymhellach, mewn darn o wers rydd mae'r ddwy linell gyntaf hyn yn gamarweiniol yn rhcoleidd-dra eu mydr; bron nad yw dyn yn disgwyl odl i "slag" Ond wedi darllen ar ail-ddarllen "Y Dilyw," ac ar ôl hynny y cerddi eraill, deuthum i newid fy marn yn drwyadl. Yn y gyfrol denau hon a'i dwsin cerdd y mae rhai o'r pethau mwyaf dwfn-gyffrous a ddarllenais erioed. Am Gymru a'r byd ac am Iesu a Mair y cân Mr. Saunders Lewis yma. Nodyn y gwrthryfelwr ysig a drewir yn y cerddi cymderthasol. Ceir paradocs diddorol i'r beirniad Henydol hen-ffasiwn. Nid bardd sydd yma yn canu "er melyster i'r glust ac o'r glust i'r galon," ond gweledydd eofn a beirniad cymdeithasol chwerw. Clasurwr, Catholigwr, pleidiwr traddodiad yw Mr. Saunders Lewis; eithr ef hefyd yw chwyldroadwr mwyaf ein llenyddiaeth, enghraifft o ramantiaeth broffwydol yn ei man aruchelaf. Yr oedd Rilke yn iawn am aistheteg a damcaniaethau llenyddol: gall bod artist yn credu mewn aistheteg atbennig, ond os yw'n artist gwir fawr, wrth lunio'i greadigaethau bydd yn gadael τ'w aistheteg fynd i ddiawi. Mewn un peth, serch hynny, mae cysondeb pwysig rhwng proffes Mr. Lewis fel beirniad llenyddol a'i fuchedd bresennol fel bardd: ni chred mewn artist sy'n greadur dirgel yn diIyn celf esoterig, eithr mewn artist sydd yn ddyn fel chwi a minnau; a rhaid cydnabod nad yw ef ei hun yn fntio ffrâm y proffwyd rhamantaidd, pell-freuddwydiol, y penseur fiottant sy'n ymneilftuo ac yn ymguddio. Y mae'r gweledydd hwn yn arweinydd ccnedlaethol, yn wíeidydd ymarferol, yn gyn-garcharor, yn wrthodedig gan Brifysgol Cymru, yn athronydd cymdeithasol. Mae celfyddyd yn rhan o fywyd, a'r artist yn un â'r dyn. Ni ellir osgoi cofio hynny gyda difrifoldeb wrth dclarllen gwaith Mr. Saunders Lewis, megis na euir gwneud hynny chwaith gyda barddoniaeth dynion fel Padrig Pearse ac Ernst Toller a Rabindranath Tagorc. Clywais yn ddiweddar am lenor ifanc o Gymro a ddaethai i'r casgliad mai peth peryglus a di-fudd oedd ymhel â gwleidydd- iaeth, ac mai ymdaflu'n llwyr i lenora oedd y peth gorau iddo ef. Ofnaf mai o ocs Victoria y daeth syniad fel hyn am swydd Ilenyddiaeth. Na, nid yw'n bosibl mwy i'r artist fyw iddo'i hun. Peth moesol a bywydol yw Uenyddiaeth. Rhoes y byd modern ddedfryd gyfiawn ar "y bardd unig": y gorchestion addurnol a gabolir mewn unigedd anghyfrifol, mewn unígcdd y cânt fod. Cerdd nodedig mewn llawer ystyr yw "Y Dilyw: 1939. Dcfnyddir y wers rydd drwyddi, eithr weithiau gyda disgyblaeth cynghanedd ac odl. Felly y cyfunir traddodiad a chwyldro mewn ffordd sy'n ddameg o holl agwedd y cerddi hyn. Darlun a geir yma o argyfwng cyfalafiaeth a diwyd- iannaeth yng Nghymru a'r Gorlfewin, y tro a ddug ddiwyHiant Ewrop i'r Gaesf a nododd Spengler, Gaeaf yr erthyl-wareiddíad ddíwydiannoi, y Gaeaf sydd ar drothwy'r cwymp catastroffìg. Atgofir dyn, fel y dywedais,