Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn fanwl ei gyfraniad fel bardd cymdeithasol a chrefyddol. Ond teimlaf yn sicr bod llenorion ieuainc Cymru dan ddyled anhraethadwy iddo am ei arweiniad golau, ac am ei chwyldroadaeth anniffodd. Ni ddiffygiodd ei athrylith ddewr er y bradwriaethau cysurus a'r damnedigaethau diogel o'i gwmpas. Gwrthododd ef "driaglu fitriol y Bywiol Air yn falm." Beth vw cuddiad ei gryfdwr? Dywcdaf innau amdano, fel y dywedwyd am Tomas o Acwin, O vir miro modo contemplativus! J. GWYN GRIFFITHS. SIORIAU RADIO, Detholiad gyda Rhagair gan T. Rowland Hughes. Llandysul, Gwasg Gomer, 1941. Tdd. 127; zs. 6d. Gwaith peryglus yw llunio damcaniaethau llenyddol. Ceisiodd Mr. Hughes lunio damcaniaeth i dynnu gwahaniaeth rhwng stori a fyddai'n gymwys i'r radio a stori i'w darllen; llwyddodd yn bur dda i esbonio rhai o nodweddion stori dda, ond nodweddion ydynt sy'n gyffredin i stori i'w darllen a stori i'w chlywed. Rhydd inni enghreifftiau o ddechreuadau tair stori a dybiai ef yn anaddas i'r radio, a bydd yn dda eu dyfynnu yma: "I'w gydbentrefwyr hynaws, ymddangosai Hywel Llewelyn, masnachwr a ystyrid yn llwyddiannus a chefnog, yn ŵr ag ysbryd caredigrwydd ac addfwynder yn amlwg ym mhob peth yr ymgymerai ag ef Diffyg sylweddoli y geill y glust weld, medd Mr. Hughes, sy'n peri i'r awdur gynnig y sgrifennu pwysig yma i'w wrandawyr; buasai'r un man iddo ddweud mai diffyg sylweddoli y geill y llygad glywed a barai iddo'i gynnig i'w ddarllenwyr. Nid sgrifennu ar gyfer y llygad sydd yma, ond sgrifennu drwg, a dyna'r cwbl sydd i'w ddweud amdano. Cymeter enghraiftt arall: "A'r machlud euraid yn harddu'r goiwcl ac yn gwasgar ei ogoniant ar bellterau maith y môr, safai'r hen forwr unig Y prentis wedi pen- derfynu troi'n dipyn o fardd, medd Mr. Hughes. PuriQn-ond anghofiodd cf ychwanegu mai methu a wnaeth y prentis; nid rhaid ond troi at y stori gyntaf yn y detholiad, "Bethesda'r Fro" yr Athro W. J. Gruffydd, i weld fel y gall awdur stori radio droi'n fardd "Mae Bethesda'r Fro heno yng nghanol y diffeithwch. Mae'r heolydd bychain troellog, a'r gwrychoedd drain a'r ffosydd wedi diflannu; nid oes yn awr ond strydoedd o goncrit a rhes ar res o dai brics, a phob math o hoywal a thyrau ac adeiladau dieithr." (Tybed a wyddai Mr. Hughes ystyr y gair hoywal heb droi at y geiriadur?) A dyma enghraifft olaf Mr. Hughes — "naid i'r pegwn arall," chwedl yntau: 'Smo fe'n gwpod hyd heddi, am wn i, taw fi, y nos 'ynny 'slawer dydd, alws y Ue'n shangdifang.' Pa wahaniaeth sydd rhwng y frawddeg hon a brawddegau cyntaf "Yr Atgyfodiad" Sam Jones? — 'AUa' i ddim meddwl 'nawr pryd yn union y gwelais i e gynta' erio'd. Os ydw' i'n cofio'n iawn, o'r 'Omes y da'th e acw, Y gwahaniaeth rhwng enghreifftiau da a drwg o'r un peth: ac yn wir, y tro hwn nid yw'n hawdd condemnio'r enghraifft "ddrwg" heb gael rhagor ohoni. Ni wna damcaniaeth Mr. Hughes mo'r tro fel maen prawf ar stori ar gyfer y radio; ond os cymerir hi fel damcaniaeth am y stori Gymraeg yn gyffredinol, mae gwreiddyn y mater ynddi. Medd ef: "Onid rhithm a chynhesrwydd y frawddeg lafar a glywir yn 'Rhys Lewis' a 'Cwm Eithin,* yn 'Traed Mewn Cyffìon' a 'Hen Atgofion'?" Ie'n sicr, meddaf innau, ac yn ddigon sicr, dyna'r allwedd i ddatblygiad rhyddiaith Cymru yn y ganrif hon, y frawddeg lafar, yn graddol ennill ei lle'n ôl ac yn ystwytho'r iaith i gwrdd â phob gofyn a ddôi arni. Os bu'r microffon, fel yr awgryma Mr. Hughes, yn foddion i wneud yn amlycach yr angen am lithrigrwydd byw y frawddeg lafar (nid yn unig dros yr awyr ond ar bapur hefyd), yna fe wnaeth y radio un gymwynas â Chymru. Ac mae'r casgliad storiau