Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

hwn yn rhoi lle i gredu fod gwir yn yr awgrym, oblegid mae'n gasgliad gwell nag a welwyd eto yn Gymraeg o stonau gwahanol awduron: nid oes vn eu plith un stori hollol wael, er bod yma amryw awduron sy'n gymharoJ anadnabyddus fel storiwyr. DAFYDD JENRINS. EFRYDIAU ATHRONYDDOL, Cyf. IV. Gwasg Prifysgol Cymru, 1941. Tdd. 68, 25. 6d. Mae'n briodol ac yn ddymunol mai ysgrif goffa i D. Miall Edwards a ddaw gyntaf yn y rhifyn newydd hwn o'r Efrydiau Athronyddol sy'n dal i ymddangos mor ddewr o hyd; oherwydd pe ceisid enwi un dyn yn anad neb arall a barodd fod modd meddwl am gyhoeddi cylchgrawn fel Efrydiau Athronyddol o gwbl yn Gymraeg, odid nad enw Miall Edwards a ddewisid —darllener ysgrif Mr. Eirug Davies, a gweler fel y mae'r gweithiau a gyhoeddodd ef yn Saesneg yn tystio i'r lefel a gyrhaeddodd ef fel athron- ydd, ac yna sylwer mai yn Gymraeg y sgrifennodd ef fwyaf. Llyfrau fel yr eiddo ef a osododd y sylfaen i'r cylchgrawn, ac wrth weld Efrydiau Athronyddol yn llwyddo, mae dyn yn dechrau mynd i chwilio am y rheswm na byddai (o leiaf) Efrydiau Hanes ac Efrydiau Amaethyddol wedi dechrau dod o'r wasg; ac efallai mai'r prif reswm i Efrydiau Athronyddol eu rhagflaenu yw fod Miall Edwards wedi dechrau sgrifennu ei lyfrau Cymraeg yn 19151 ac na chyhoeddwyd fawr o lyfrau hanes sylweddol yn Gymraeg am flynyddoedd wedyn. Gellid disgwyl yn natunol i gylchgrawn Cymraeg o efrydiau ar unrhyw bwnc o ddysg fagu sgrifenwyr newydd ar y pwnc: a hyfryd yw gweld mai dyna sy'n digwydd. Yn y ihifyn hwn ceir ysgrif ddysgedig a diddorol, "Y Buddha a Phroblem y Drwg," gan Mr. J. J. Jones. Yn ôl pob tebyg, Mr. Joncs yw'r unig Gymro a allai sgrifennu ar y pwnc oddi ar wybodaeth o'r testunau yn yr ieithoedd gwreiddiol; a chan nad yw'r Sansgrit a'r Pali ond dwy ymhlith Haweroedd o'r ieithoedd dieithr a fedr Mr. Jones, hyderwn yn fawr y denir ef i sgrifennu eto ar ryw destun o'r fath. DAFYDD JENKINS. PAMFFLEDI'R HEDDYCHWYR. Pris 3c. Gwasg Gee. Gan y Dr. E. K. Jones y cefais hanesyn am un o'r tyneraf o weinidogion yr Ymneilltuwyr yng Nghymru. Ar ddiwedd y rhyfel diwethaf, pan fu ef yn cyfaddawdu'n ofalus, sgrifennodd at y Dr. Jones a dweud, "Mor hyfryd yw cael bod y cyfan drosodd! Fe allwn ni i gyd fod yn erbyn rhyfel yn awr." Y tro hwn, yn ddiamau, mae Cymru'n ffodusach. Safodd Uciafrif cryf yn erbyn y llif. Ni chafodd Mawrth eu giiniau i blygu iddo na'u genau i'w gusanu, a hynny yn nydd y gwadiad mawr. Mae clod arbcnnig yn ddyledus i Heddychwyr Cymru, ac yn enwedig i'w hysgrifennydd egnïol, Mr. Gwynfor Evans, am drefnu cyhoeddi tystiolaethau cedyrn yn erbyn y rhyfel hwn ac yn erbyn pob rhyfel. « Y meithaf o'r pamffledi, ac efallai yr un mwyaf diddorol, yw'r diwethaf a ddaeth i'n Ilaw, sef ymdriniaeth y Parch. George M. Ll. Davies o'r Mahatma Gandhi. Dywed Mr. Davies yn ddigon gwir, i'm tyb i, fod meddw! a buchedd wleidyddol Mr. Gandhi wedi dylanwadu ar bolisi'r Blaid Genedlaethol yng Nghymru. Ymwrthododd Cenedlaetholwyr Cymru â rhyfel fel moddion i gyrraedd eu delfryd. Mewn un pwynt a bwysleisir gan Mr. Davies ynglyn â bywyd Gandhi, bu tebygrwydd yn safbwynt arweinwyr y Blaid, er na sonia Mr. Davies am hyn. Yn ôl goddefiaeth Gandhi, personau ac nid pethau sy'n gysegredig. Bu Tagore yn anghyd- weld â pholisi Gandhi o argymell llosgi brethynnau tramor er mwyn