Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHAGAIR (Preface) PRIODOL, efallai, fyddai gair o eglurhad gyda'r rhifyn cyntaf hwn o Bathafarn. Prin bod angen ei am- ddiffyn o gwbl, nac ychwaith y tair Talaith Gymreig a'r Gymanfa a sefydlodd y Gymdeithas Hanes. Dichon y cred rhai yn gwbl ddiffuant nad doeth mewn dyddiau fel y rhain yw ymbalfalu gormod yn y gorffennol; mai ein dylet- swydd yn hytrach yw edrych i'r dyfodol, a syllu ar a fydd yn fwy nag ar a fu. A gwir yw hyn: y gall dyn fyw cymaint yn y gorffennol nes myned ohono'n ddall i'r presennol a'r dyfodol. Eithr y mae'r un mor wir na all neb ymysgwyd yn llwyr oddi wrth y gorffennol, pa mor fychan bynnag y bo'i ddiddordeb ynddo, oblegid y mae ef ei hun, a'r gymdeithas y mae'n rhan ohoni, yn ffrwyth y gorffennol. Ymhellach, ar sail y presennol-a'r presennol fel ffrwyth y gorffennol- yn unig y gellir adeiladu yfory gwell. Gwêl y darllenydd gyfansoddiad a dibenion y Gymdeithas hon ar ddiwedd y rhifyn hwn. Yma, digon yw dywedyd mai ei phrif amcan yw hyrwyddo diddordeb yn Hanes yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru. A chan ein bod fel Methodistiaid yn rhan o Gyfundeb mawr Seisnig, a'n hanes i raddau helaeth yn gymhleth â'i hanes yntau, priodol yw i ni gofio hynny a rhoi lIe i'r ddwy iaith ar dudalennau'r cylchgrawn hwn. Mae'n wir fod gan y Saeson eu Cym- deithas Hanes eu hunain-y Wesley Historical Society-a gvvyr rhai ohonom trwy brofiad fod cylchgrawn y Gym- deithas honno yn agored i bob Cymro a Chymraes a gâr wneuthur defnydd ohono. Nid cystadlu â'r W.H.S." felly yw amcan Bathafarn, eithr yn hytrach cyd-weithio â hi er ein lles cyffredinol. Oblegid y mae gennym fel Methodistiaid Cymreig ddau draddodiad, traddodiad Seisnig a thraddodiad Cymreig, y naill yn hyn o ryw dri chwarter canrif na'r llall. Ar y naill law, y mae gan yr Eglwys Fethodistaidd-y Cyfundeb Methodistaidd ei hanes, a ffrwyth yr hanes hwnnw yw nifer o athrawiaethau arbennig, ffurf arbennig o lywodraeth eglwysig, a thrwy gyfrwng y naill a'r lIall, a than fendith Duw, hanes odidog o lwyddiant crefyddol a chymdeithasol a ymestyn dros ddau can mlynedd. Dyna ein hetifeddiaeth o Loegr, y traddodiad Seisnig; eithr y mae gennym hefyd fel yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru etifeddiaeth arall, ffrwyth yr un athrawiaethau a'r un ffurf-lywodraeth eglwysig, yn gweithio trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg am agos i ganrif a hanner yng Nghymru. A da fyddai i ni gofio hyn. Ffolineb fyddai anwybyddu'r gorffennol; ffolineb hefyd fyddai i ni ei hanner-addoli fel