Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O GYLCH Y CEFNDIR Gan Y Parch. DANIEL WILLIAMS, Prestatyn. NID gorchwyl hawdd ydyw olrhain na dehongli unrhyw fudiad, boed ef blwyfol neu fyd-lydan, heb ymdroi ychydig ogylch y cefndir. Yno, yn blygion dan gudd weithiau i bryfocio'r ymchwilydd, y ceir stori'r dech- reuadau. Cais Golygydd y Cylchgrawn newydd hwn ydyw ar i mi aros ychydig yng nghymdogaeth y cefndir, ac ni eill yr aros hwnnw fod yn hir y tu fewn i derfynau'r ysgrif. Nid oes nemor o flynyddoedd er pan ysgrifennodd y diw- eddar Barch. D. D. Williams, "ar gais Pwyllgor Llenydd- iaeth y Gymanfa Gyffrèdinol," law·lyfr­"Hanes Cyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd." A chawsom yn ddiweddarach lyfr gwerthfawr Mr. A. H. Williams, Welsh Wesleyan Methodism, 1800 — 1858"; heblaw, wrth gwrs, y cyfrolau cynharach o ddeutu a gawsom. Er i'r aberoedd yng nghwrs amser a datblygiad gymryd cwrs gwahanol ac ymffurfio'n gyfundebau, yr un yw ffynhonuell y traddodiad i'r cwbl. Er i sêl plaid o bryd i bryd wneuthur cais i lunio unedau o'r cyrff Methodistaidd, ni welais lwyddo o neb, yn foddhaol, i dorri'r cyswllt, a hyd yn oed yng nghwrs hanes wedyn rhed yr aberoedd i'w gilydd; a pha ryfedd, oblegid tarddant o'r un llyn. Dywedaf hyn er mwyn awgrymu mai un Cylch- grawn Hanes a fuasai fuddiolaf i'r ddau gyfundeb yng Nghymru. Credaf fod rhesymau hanes drosto, cyn gryfed ag yw y rhesymau crefyddol neu efengylaidd dros un llyfr emynau. P'un bynnag, hwyrach y daw i hyn maes o law. Ffasiwn haneswyr a fu'n dyfal chwilio amgylchiadau'r cefndir ydyw pwysleisio duwch y cyfnod a flaenorai'r Diwygiad Methodistaidd, a'r farn bellach ydyw iddynt ei or-dduo, 0 leiaf ymwthiodd ychydig o ragfarnau i gylch yr ymchwil, ac nid diogel mo'r hanesydd a fo gaeth i'w ffan- si'au. Cyffelyb yw'r amgylchiadau, gydag ychydig o eithr- iadau, yng Nghymru a Lloegr. Hysbys ydym o linellau Pantycelyns- Pan oedd Cymru gynt yn gorwedd Mewn rhyw dywyll farwol hun, Heb na Phresbyter na Ffeiriad, Nac un Esgob ar ddihun." Bu dwrdio a chystwyo llawer ar Williams am gynnwys y llinellau uchod yn ei Farwnad i Hywel Harris. Dywaid yr Athro R. T. Jenkins mai ar foment anlwcus y canodd Pantycelyn y geiriau. Gŵyr y cyfarwydd o ddarllen ymlaen