Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEIADAU CYNNAR JOHN WESLEY YNG NGHYMRU Gan Y Parch. GRIFFITH T. ROBERTS, M.A., B.D. YN NIWEDD y flwyddyn 1738 anfonodd George White- field, ac yntau newydd ddychwelyd i Brydain o America, lythyr at Howell Harris yn mynegi'r llaw- enydd a gawsai o glywed am lwyddiant ei waith yng Nghymru ac yn ei annog i fyned ymlaen, yn nerth yr Ar- glwydd, er gwaethaf pob anhawster a gelyniaeth. Wrth ateb y llythyr hwnnw rhoes Harris grynodeb o gynnydd y Diwygiad yng Nghymru hyd ddechrau'r flwyddyn 1739. Yr oedd y deffroad crefyddol erbyn hyn wedi decnrau cael gaf- ael ar siroedd Aberteifì, Caerfyrddin, Brycheiniog, Mynwy, Morgannwg a Threfaldwyn, ac yr oedd amryw weithwyr eraill ar y maes heblaw Harris ei hun,-Daτıiel Rowland, dau neu dri churad ieuanc a phregethwr ymneilltuol ym Morgannwg ac offeiriad ym Mrycheiniog. Gwyddom fod amryw seiadau wedi eu sefydlu yng Nghymru erbyn hynny, ond yn Lloegr nid oedd y Diwygiad Methodistaidd ond newydd ddechrau. Y mae'n wir fod Whitefield wedi cael ei droedigaeth tua'r un adeg â Howell Harris a'i bregethu eisoes wedi tynnu cryn sylw, ond aethai ef o ganol ei lwydd- iant i America ac yno y treuliasai ran helaeth o'r flwyddyn 1738. Yn ystod y flwyddyn honno y cawsai John a Charles Wesley eu troedigaeth hwy, ond pur gyfyngedig a fuasai eu llafur hwythau hyd yn hyn, ac yn wir treuliasai John ran o'r un flwyddyn gyda'r Morafiaid ar y cyfandir. Digwyddiad pur bwysig, mewn gwirionedd, oedd dych- weliad Whitefield i'r wlad hon, oblegid ef oedd y ddolen gydiol a ddaeth ag arweinwyr y Diwygiad yng Nghymru ac yn Lloegr at ei gilydd i ddechrau, ac ef hefyd a ddechreu- odd y gwaith ym Mryste a oedd i ymledu cyn hir dros yr holl ynysoedd hyn. Cyn diwedd Ebrill 1739 yr oedd White- field wedi myned â Harris i Lundain a'i ddwyn i gysylltiad â Charles Wesley ac eraill o'r arweinwyr cynnar. Yn ddi- weddarach yn yr un flwyddyn cyfarfu Harris â John Wesley ym Mryste, ac y mae'n debyg iddo ei Wahodd, megis y gwa- hoddasai Whitefield cyn hynny, i ddyfod trosodd i Gymru i gynorthwyo'r gwaith yno. Y mae gennym dri adroddiad argraffedig am gyfarfyddiad cyntaf Wesley a Harris â'i gilydd, y cyntaf gan Harris ei hun a'r ddau arall gan Wesley. Dyfynnwn rai o eiriau Harris: "Thence to hear Mr. John Wesley, whom I had heard much talk of and loved much from what I had heard of