Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYDDIADUR EDMUND EVANS. Gan Mr. Garfield H. Hughes, M.A., Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. UN o lawysgrifau'r Llyfrgell Genedlaethol yw'r Dydd- iadur — N.L.W. 3505-un o nifer a fu'n eiddo i'r Parch. William Davies, 3ydd. Gellid meddwl y bu bwriad unwaith i'w gyhoeddi-y mae geiriau Edmund Evans ei hun yn 1850 yn awgrymu hynny Mawrth 18 yr wyf wedi rhoi ar y Parch. William Davies y 3ydd i wneud fy nyddlyfr i ac y mae wedi addo; ac os bydd elw i'r plant i'w gael. —ond buasai mentro ar hynny yn gofyn am hyder neilltuol. Rhaid cofio maint y llawysgrif: tebycach yw i lyfr cyfrifon siop na dim arall, a phob tudalen, heb un gongl wag, wedi ei chuddio gan ysgrifen heglog Edmund Evans. A'r cyn- nwys drachefn: dyddiadur manwl — gor-fanwl yn wir-o 1815 hyd 1863, a'r cofnodion yn dilyn yr un drefn, yr un geiriad, o fis i fis, ac o flwyddyn i flwyddyn. Diau fod ynddo ffeithiau pwysig i'r hanesydd: gwelsom hynny eisoes yng ngwaith Mr. A. H. Williams. I eraill beichus yn wir fyddai'r darllen onibai fod personoliaeth arbennig yr awdur yn cael ei ddatguddio beunydd ar air ac ar weithred, a bod cymeriadau eraill, enwocach, yn ymddangos hefyd o dro i dro. Brysiog oedd fy narlleniad i o'r dyddiadur, ond ni allwn osgoi sylwi ar weithgarwch ac egni anghyffredin Edmund Evans. [Cofiais wedyn, wrth ail-ddarllen Welsh Wesleyan Methodism, am eraill tebyg iddo-Robert Jones, Llwyn-y- ffynnon; John Lloyd, Meifod; William Aubrey, Llannerch- ymedd.] Bu iechyd corff o'i blaid. Yn ei gofiant i Mrs. Jane Roberts, Clogwyn, Harlech-Yr Eurgrawn, Medi 1856-edrydd fel y bu iddi alw ar ei ôl ryw fore Llun pan oedd yn ymadael "Deuwch yn ôl, rhag eich cywilydd! Dyma chwi yn myned ymaith heb ymweled â John Evans dyma fel yr ydych yn anghofio'r cleifion-nid ydych byth yn glaf eich hun." Ond ni wedda i rai ohonom a freintiwyd â iechyd gweddol ond synnu a rhyfeddu at gampau hwn fel cerddwr. Rhwng lonawr 5 a Chwefror 5, 1825, cerddodd bum cant a hanner o filltiroedd trwy Abermaw a'r Borth i Aberystwyth-llefaru yno "gyda gradd helaeth o'r dwyfol bresenoldeb"; i Glanmaid a Llan- 1 Ceisiais ddiwygio'r orgraff a'r atalnodi wrth ddyfynnu.