Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLAWYSGRIFAU COLEG Y GOGLEDD. 2727-2852, 4193-4209: ì apurau W. H. Evans (Gwyllt y Mynydd) Gan y DR. THOMAS RICHARDS, M.A., Banyor I. 2727-2852. Dyddiaduron, ysgrifau, &c., o waith y diwedd Barch. W. H. Evans (Gwyllt y Myyndd), gweinidog Wesleaidd, 1831-1909. Un o'r gweithwyr mwyaf diwyd a llafurus yn ei ddydd ysgrifennu i'r cyfnodolion, pregethu a darlithio, gohebu, a chadw peth wmbredd o fanylion bywyd yn ei ddydd-lyfrau — a'r cwbl mewn script glir, lân, sydd yn bleser i'w darllen. Yr oedd yn fywyd i gydn yn ei gylchdeithiau, gyda materion enwadol, gyda Rhyddfrydiaeth a'r Eglwysi Rhyddion, yn llawn asbri efo hen bethau a symudiadau newyddion. Brawd Cynfaen, a thad y diweddar Barch. W. O. Evans, yntau yn un o brif bwerau Wesleaeth Gymreig yn ei oes. Oddi wrth ei weddw ef, yn garedig iawn, y cafwyd y trysorau hyn. 2727-2728. Nodion o Ddefnyddiau at gofiant fy anwyl Dad (yn llaw W.O.E.). Ysgrifennodd ddeuddeg ysgrif ar ei dad i Eurgrawn, 1910 tybed a oedd yn ei fwriad ysgrifennu cofiant llawnach ? Y mae'r nodion hyn o hwylustod mawr i ddilyn gyrfa W.H.E. a rhawd y dyddiaduron. 2729. Dyddiadur John Evans (Ioan Tachwedd) ei dad, am 1855 amryw gyfeiriadau at y meibion. 2730. Cyfrol o Hanes Llundain (ysgrifenwyd Gorff. 20, 1855). 2731. Dyddiadur am 1856. 2732. Dyddiadur am 1857. 2733. Dyddiadur ei dad (1858). 2734. Dyddiadur W.H.E., 1858. 2735. Braslun byr o hanes ei fywyd a'i yrfa hyd Awst, 1858. 2736-2737. Dyddiadur(on) am 1859. 2738-277: Dyddiaduron, 1861-1879. 2771-2783. Dyddiaduron, 1885-1890. 2784-28 6. Dyddiaduron, 1890-1900. 2807-2813. Dyddiaduron, 1880-1885 (dylai y rhai hyn ddod rhwng 2770 a 2771). 2814-2823. Dyddiaduron, 1901-1908. 2824. Dyddiadur y Parch. W. O. Evans am 1914. Am y dyddiaduron uchod, nid tameidiau o gofnodion sydd ynddynt, ond entries llawn, amgylchiadol, am fanylion mewnol y cylchdeithiau, am ei brofiadau ysbrydol, ac am ei lawenydd a'i brofedigaethau teuluol.