Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

2825. (i) Llythyrau oddi wrth W.H.E. at rai o'r teulu at ei rieni (6), at ei frawd Cynfaen (8-10), at ei fam (11-40), at ei fab W. O. Evans (42-60). Am y Ueill, Cynfaen ato ef yw 7, W.O.E. at ei dad yw 41, a llythyrau oddi wrth ei dad a'i fam yw 1-5. Y tad, Ioan Tachwedd, a ysgrifennodd y cyntaf, ar gefn hysbysiad am Eisteddfod Machraith, Môn, i'w chynnal ar 22 Mai, 1855. (ii) Llythyrau ato ef oddi wrth bob math o bob I-Edward Anwyl y pregethwr Wesle, Cadfan a Chlwydfardd, gweinidogion cylchdeithiau, arolygwyr y Book Room, &c. Yn 23 gwelir sôn am gychwyn y Gwyl- iedydd (18 Gorff. 1876) yn 30 sôn am gyhoeddi cofiant ei frawd Cynfaen yn 34-35 gyfeiriadau at y Cyfeiriadur Duwinyddol. Llythyr diddorol o'r America (67) dau lythyr oddi wrth yr Aelod Seneddol Herbert Lewis (58-59). Cofnod o fynwent Llanrug (15). Nodiadau o'r araith a draddododd yng nghwrdd ymadawol y Parch. Charles Davies, Everton Village (12). 2826. Fy Nghof-Nodau o'r Cyfarfodydd Talaethol y bum yn- iddynt." 246 td. O gyfarfod Llanrwst (Mehefin, 1857) hyd gyfarfod Bangor (Mehefin, 1874). 2827-2852. Ysgrifau i'r cyfnodolion, pregethau, barddoniaeth. 2827-2833. Yr ias ysgrifennu yn dechrau'n ieuanc (gwêl ysgrif ei fab yn yr Eurgrawn, 1910, td. 49)-golygu cyfnodolion o'r eiddo ei hun (un, 2827, pan nad oedd onid 14 oed). Yr enwau oedd Yr Adroddiad Efengylaidd (1845), Y Trysorydd (1850), Cenhadydd y Myfyr- iwr (1856), Y Brawdgarwr (1857). 2834-2839. Catalog o'r prif erthyglau a anfonodd i'r Gwyliedydd, Mawrth 2, 1877, i Awst 30, 1899 (2834), eto o Fedi 6, 1899 i Ragfyr 28, 1904, ac o Chwef. 1, 1906, i Fehefin 20, 1907 (2835). Ymddyddanion y Plant a'r bobl ieuainc yw 2836-traddodwyd hwy pan oedd ar gylch- daith Llangollen (1869-1870). Llyfrau cuttings yw 2837-2839 o ysg- rifau a anfonodd i wahanol bapurau newyddion. 284'2842. Llyfr o bregethau a draddododd o fewn llai na bîwyddyn i ddechrau pregethu yw 2840 dau barsel o bregethau a saernîodd yn nyddiau ei nerth yw 2841-2842. 2243-2852. Barddoniaeth. 2843. Pryddest (320 llinell) ar Adgyfodiad Crist a anfonwyd gan W.H.E. i iisteddfod Merthyr yn 1850. Gwilym Ceifiog oedd ei hoff fftigenw ar y pryd. 2844. Awdl ar Esgyniad. Crist ar gyfer Eisteddfod yng Nghastell Fflint (Awst, 1851.) Y tad oedd yr awdur, ond yn llaw'r mab yr ysgrifennwyd hi. 2845. Awdl y Croeshoeliad gan ei dad Ioan Tachwedd ar gyfer Eisteddfod Dolgellau, 1853. 2846. Pryddest Gpffa am y diweddar Richard Jones, Traws- fynydd 1857.