Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

athrofaol bychan a godwyd gan y Parch. Benjamn Chidlaw gweinidog Annibynnol, genedigol o'r Bala, yn nhalaith Ohio, a dibynnai y Bedyddwyr a'r Methodistiaid Calfinaidd ar hynny o addysg golegol a gawsent yng Nghymru, a'r Wesleaid ar yr hyn a gawsent yn Lloegr. Gwir i John Wesley, Thomas Coke (Cymro o Aber- honddu) a Francis Asbury weinyddu'r swydd esgobol yn yr America drwy drefn olynol a rheolaidd a llwyddo ohonynt i greu Eglwys gadarn, gref, drwy'r holl wlad, ond er i'r enwad geisio dechrau yn Georgia yn 1736 trodd yn aflwyddiannus oherwydd fod George Whitefield, a oedd yn fath ar Ioan Fedyddiwr wedi cynnau yr efengyl a gwneuthur y wlad yn goelcerth yn ystod ei saith ymweliad o'r flwyddyn 1738 hyd ei farw ym Medi 1770. Yr oedd ei lafur ef (yn ôl yr awdurdodau Americanaidd) yn anghymharol mwy niferus yn ei ddychweledigion a'i ffrwythlondeb na llafur John Wesley, a gelwid George Whitefield yn American Methodism's John the Baptist," ond wedi ei farw cafodd dilynwyr J. Wesley afael ar yr U.D.A., ac yn 1772 cawn Gymro fel Owen yn gweinidogaethu yn Frederick Co., ac o 1774 ymlaen daw enw Robert Williams yn amlwg fel pregethwr teithiol y Methodistiaid Wesleaidd ger ein bron yn aml a'i enw yn disgleirio yng nghofnodion Cynadleddau Americanaidd yr enwad; yr oedd ei orsaf ef yn Petersburg. Rhwng 1778 a 1780 cawn fod Charles Hopkins, Thomas Morris a James Morris yn cael eu cymeradwyo i fod yn bregethwyr gyda'r Methodist- iaid Americanaidd. Yn 1784 ceisiodd John Wesley gael ordeinio'r Cymro enwog Thomas Coke i fod yn Esgob, am y gwyddai yn dda fel gwr a'i harddelai ei hun fel aelod o Eglwys Loegr fod yr Eglwys honno wedi ei llwyr ddadsefydlu yn yr U.D.A. am byth, a dymunai iddo fyned i'r America i arolygu'r Cymdeithasau. Argyhoeddwyd John Wesley er gwaethaf ei ystyfnigrwydd ei bod yn ddyletswydd arno sefydlu ei Gymdeithas yn yr America yn Eglwys anni- bynnol, ond carai seremonïau Eglwys Loegr, a rhy rwymedig oedd wrth syniadau Eglwys Loegr i ganiatau defnyddio'r term AROLYGWR. Yn ôl cofnodion y fl. 1785 pender- fynodd ddefnyddio y term ESGOB. Wrth gwrs rhaid oedd arno fodloni ei hun i gael ei alw yn Esgob. Bu anghydwelediad rhyngddo ac Asbury ar lawer o ddulliau cyfansoddiadol yr enwad a sefydlodd. Ysgrif- ennodd Wesley at y Dr. Thomas Coke i drefnu Cynhadledd Gyffredinol o holl bregethwyr ei enwad yn U.D.A. i gyfarfod yn Baltimore Mai 1, 1787, er mwyn ethol Arolygwyr, a bu anghydwelediad yno hefyd a methu penderfynu pwy a oedd i fod yn Esgobion ar eu Heglwys dros yr Unol Dal-