Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DEFNYDDIAU CRAI HANES YR EGLWYS FETHODISTAIDD YNG NGHYMRU. Un o brif amcanion y Gymdeithas hon yw diogelu'r defnyddiau hynny sy'n ymwneud â Hanes yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru, defnyddiau a fydd o werth i hanesydd y dyfodol. Heb y cyfryw ddefnyddiau, ofer yw disgwyl am hanes, a gẃyr y neb a fu'n ceisio ysgrifennu peth o'r hanes hwnnw-boed yn hanes lleol neu yn hanes y Cyfundeb yn gyffredinol-mor anodd ambell dro yw dod o hyd i'r defnyddiau anhepgor. Gwn trwy brofiad am hyn, a hawdd iawn fyddai llunio ysgrif faith a diddorol ar Deithiau Casglu,' a'r modd y deuthum o hyd i'r defnyddiau mwyaf gwerthfawr yn y lleoedd mwyaf annisgwyl; yn Golborne, yn ymyl Wigan, er enghraifft, y mae (neu yr oedd) llawer o wybodaeth amhrisiadwy am y Wesle Bach. Y mae ein dyletswydd fel aelodau'r Eglwys Fethodistaidd-ac yn enwedig fel aelodau'r Gymdeithas hon-yn amlwg ddigon dylem ddiogelu popeth a deifl oleuni ar ein hanes, ac yn enwedig y pethau hynny sy'n ymwneud â hanes lleol=- · hanes yr achos yn y lie a'r He,' neu'r gylchdaith y perthyn yr achos hwnnw iddi. Dyma waith y gallwn oll ymgymryd ag ef. Mater i'r llysoedd Cyfundebol-y Cyfarfodydd Taleithiol a'r Gymanfa-yw diogelu'r cofnodion cyfundebol swyddogol, ac wrth fyned heibio, ni wn faint a wneir yn y cyfeiriad hwn yn unig, gwn y bu'n rhaid i mi dreulio rhai wythnosau yn ymbalfalu yn City Road, Llundain, am gofnodion Cyfarfodydd Taleithiol Cymru yn ystod hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf-a hynny mewn seler a oedd yr ystafell debycaf i refrigerator y bûm ynddi erioed, a than gyfar- wyddyd gwr o Bregethwr Cynorthwyol yr oedd ei ddiddordeb ym mhroflenni'r Methodist Recorder ryw gymaint yn fwy na'i ddiddordeb yn Hanes Wesleaeth Gymreig. Y mae lle i gredu bod llawer o aelodau'r Gymdeithas hon yn barod i gydweithio yn y cyfeiriad hwn anhawster llawer ohonynt yw gwybod yn union beth sy'n ddigon pwysig i'w ddiogelu. Amhosibl, wrth gwrs, yw rhoi rhestr gyflawn o bopeth o'r fath, ond efallai y rhydd y rhestr hon ryw syniad o'r defnyddiau amrywiol y dylid eu casglu a'u diogelu 1. Cofnodion y Cyfarfodydd Chwarter, Safes y Cylchdeithiau yw'r lle priodol i'r rhain — ond unwaith eto, gellid traethu'n huawdl ar gynnwys nifer o'r safes cyfundebol. 2. Llyfrau Cyfrifon y Goruchwylwyr. 3. Llyfrau rhestrau-yr hen class-meetings.' 4. Planiau Cylchdeithiol. Rhaid bod nifer mawr o'r rhain ar hyd a lied y wlad. Onid yw'n bosibl trosglwyddo plan i'r Llyfrfa, tybed na fyddai modd i rywun anfon manylion ohono i Bathafarn nifer ac enwau'r eglwysi, y gweinidogion, a'r pregethwyr cynorthwyol gyda'r dyddiad a'i gartref presennol ? 5. Arwyddion, h.y., hen docynnau aelodaeth. 6. Hanes achosion lleol. Y mae mawr angen am restr gyflawn o'r rhain, a ckopi o bob un mewn man canolog (fel y Llyfrfa dyweder).