Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MYNYDD SEION," TANYFRON 1897-1947 OS Cylchdaith Coedpoeth yw'r gylchdaith fwyaf a fedd Methodistiaeth Gymreig, ac os Tanyfron yw canol- bwynt daearyddol Cylchdaith Coedpoeth, yna eglwys Mynydd Seion, Tanyfron, yw canolbwynt daearyddol Methodistiaeth Gymreig y byd. Nid myfi sy'n dadlau felly (er cymaint y carwn wneud) ond un o brif bregethwyr Methodistaidd yr oes hon. Y mae deubeth o leiaf yn sicr yn gyntaf, fod Tanyfron yn fan cyfarfod hwylus iawn i bob eglwys yng Nghylchdaith Coedpoeth; yn ail, fod eglwys Mynydd Seion yn hanner cant oed eleni. Yn an- ffodus, rhaid ychwanegu ffaith arall: na fu cyfeillion da yr eglwys hon (ac yn hyn o beth y maent yn wahanol iawn i'w rhagflaenwyr yn y Fron) fyth yn or-selog dros anfon hanes eu hynt a'u helynt i'r papurau enwadol. Rhaid edrych i gyfeiriadau eraill am eu rhinweddau hwy, a buasai Golygydd Y Owyliedydd Newydd a hyd yn oed Golygydd y Cyùhgrawn Chwarterol ambell dro, wedi llwyr dorri'u calonnau o anobaith pe dibynnai llwyddiant eu cyfnodolion ar ohebwyr yr eglwys hon. Nid na fu gweithgarwch rhyfedd yn yr eglwys o dro i dro, eithr oherwydd difaterwch neu ostyngeiddrwydd, ni welwyd yn dda gyhoeddi'r gweithgar- wch hwnnw ar bennau'r heolydd. Truenihynny erbyn hyn, oblegid anodd yw adeiladu ty heb frics, ac anodd yw gwneuthur cyfiawnder â Mynydd Seion heb ddefnyddiau. Aeth llawer o'r dogfennau angenrheidiol ar goll hefyd rhai o lyfrau'r eglwys, llyfrau'r rhestrau, llawer o bethau sy'n anhepgor i'r hanesydd. Ond gan fod ty prefabricated yn well na dim, a chan y dylai Hanes, fel cariad, ddechrau gartref, rhaid gwneud y gorau o'r hyn sydd ar gael a diolch i'r cyfeillion caredig hynny a'm cynorthwyodd mor barod. II. Pentref bychan ym mhlwyf Brymbo yw Tanyfron, yn gorwedd ychydig o'r neilltu rhwng Coedpoeth a Brymbo, a rhyw filltir i'r gogledd o Southsea-Southsea heddiw, eithr Glanrafon yn nyddiau'r duwiol John Evans y Bala, 1 Rhaid diolch yn arbennig i Miss Gertrude Williams am gael benthyg papur defnyddiol ei thad, y diweddar Thomas Williams, U.H., ar Hanes yr achos yn y Fron a Thanyfron i Mr. T. O. Evans, Wrecsam, am ei ganiatâd parod i ddefnyddio'i set gyHawn o'r Cylchgrawn Chwarterol, sef cylchgrawn Cylchdaith Coedpoeth; i'r Parch. R. T. Roberts, Arolygwr presennol y gylchdaith, am nifer o bethau gwerthfawr o safe y gylohdaith ac i Mr. J. H. Roberts, Ysgrifennydd presennol yr eglwys, am lawer cymwynas a llawer sgwrs ddifyr.