Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYLANWAD RHAI O FETHODISTIAID LLOEGR AR EMYNAU A MESURAU PANT CELYN Gan y Parch. GOMER M. ROBERTS, Pontrhydyfen. NID oes angen astudio llawer ar emynyddiaeth y ddeunawfed ganrif cyn sylweddoli bod yr emynwyr Cymreig yn ddyledus i'w cymrodyr yn Lloegr. Yr arloeswr mawr ym myd yr emyn Cymraeg ydoedd Williams Pantycelyn, ond wrth astudio ei emynau yn y drefn amseryddol daw un peth pwysig i'r golwg,-bod dylanwad y diwygwyr Methodistaidd Seisnig yn fawr arno. Ymhlith y cyfarwyddiadau a roddir ganddo i'r rheini a ryfygai ddanfon Hymnau i'r Argraphwasg fe geir y cyngor diddorol a ganlyn (Ffanoel Weledig, ail ran, 1766) Darllen yn Saesonaeg, os na's gallant ddarllen mewn Jeithoedd eraill bob Llyfrau o Brydyddiaeth addas a allont gyrraedd; er mwyn helaethu eu deall, i adnabod Prydyddiaeth, pa le y mae ei thegwch hi yn gorphwys, at bwy ddiben y mae, a'r amryw reolau sy'n perthyn iddi. Dyna ddull Williams ei hun, mae'n ddiamau, a gellir olrhain dylanwad gwaith awduron Seisnig ar ei emynau yn aml iawn. Mewn man arall yn ddiweddar ceisiais ddangos y modd y cafodd Williams rai o'i fesurau newyddion oddi wrth y Saeson, a thybiaf iddo gael tonau cyfaddas i'r mesurau hynny o lyfr tonau cyntaf John Wesley, A Collection of Tunes, Set to Music, As they are commonly sung at the Foundery, 1742. Y mae'n ddiau hefyd fod rhai o donau J. F. Lampe, Hymns on the Great Festẁals and Other Occasions, 1746, yn adnabyddus iddo, canys yn 1747 fe ymddangosodd emyn o waith Morgan Dafydd o Gaeo yn y rhifyn olaf o'r Aleluia ar y mesur 5.5.11 Yr Jesu'n ddilai I'm gwared om' Gwae, Fe safiodd fy Mywyd, maddeuodd fy Mai. Charles Wesley a ddefnyddiodd y mesur hwn gyntaf mewn emyn Saesneg, a'r dôn gynharaf arno ydyw Hymn IV 1 Gweler y Nodyn Ychwanegol ar y Mesurau a Thonau i'm hysgrif ar "Williams Pantycelyn ac Aleluja,' 1744" (The Journal of the Welsh Bibliographical Society, Vol. vi. No. 3).