Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHODDION (GIFTS) 5. Gan Mr. E. Langford Jones, Gwernaffield, Wyddgrug — Plan Pregethwyr y Trefnyddion Wesleyaidd yn Nghylchdaith y Wyddgrug, 1871." Ysgrifenna'r Parch. H. M. Pennant Lewis Argraffwyd y Plan ar liain gan Pring Price, Argraff wyr, Heol Fawr, Wyddgrug.' Gwelir enw'r argraffwyr ar waelod y Plan, a chynnwys y Plan amryw fanylion eraill- cariad wleddoedd, dyddiau ympryd chwarterol, cyfarwyddyd ynglŷn â gweinyddu'r Crdinhad o Fedydd-y cyfan yn dra diddorol. 6. Gan Mr. Powell Humphreys, Gwyddelwern Casgliad o gopiau o Blan Cylchdaith Corwen, 1885-1919. 7. Gan y diweddar Mr. D. D. Jones, Treffynnon (a) Almanac yr Eurgrawn a'r Winllan, 1900. Yn cynnwys adnodau o'r Beibl ar gyfer pob dydd o'r fiwyddyn, a darluniau o'r Parch. Edward Humphreys, Llywydd y Gvmanfa, Cynrvchiolwyr Lleyg i'r Gynhadledd (1899). y Parch. W. H. Evans, Rhyl, William Davies (Gwilym Dafydd), T. R. Marsden, John Cunnah, Lewis Williams (Machynlleth), Edward Jones (Conwy), W. O. Jones (Aber), William Roberts (Maentwrog), a'r Cynrychiolwyr i'r Gymanfa Wesleaidd gyntaf. (6) Plan Cylchdaith Treffynnon. Mawrth-Mehefin, 1871. (c) Plan Cylchdaith Treffynnon. Hydref, 1823-Ionawr, 1824. (d) Plan Cvlchdaith Treffynnon a'r Wyddgrug, Rhagfyr, 1834- Ebrill 1835. CORRECTION In the genealogical table attached to the note on Sir John Philipps in Bathafarn, vol. i. p., 75, the name of Sir John's father, Sir Erasmus Philipps, was accidentally omitted. The first column on the left- hand side should read Sir Rd. Philips-Sir Erasmus Philipps-Sir John Philipps, S.P.C.K. Mewn llaw Oherwydd prinder gofod, cyhoeddir yr ysgrifau canlynol (y sydd eisoes mewn llaw) yn y rhifyn nesaf: Hanes Bethel, Llanegryn, gan Mr. William Davies, Llanegryn The Bahram Memorial School, Trecwn, gan Mr. W. O. Hughes Llawysgrifau Coleg y Gogledd (Papurau W. O. Evans), gan y Dr. T. Richards, Bangor Ysgrifau yn ymwneud â hanes yr Eglwys Fethodist- aidd, gan Mr. W. H. Davies, Rhuthun; a Nodiadau. — GOL.