Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Drych o Ddechrau'r Ganrif 1 Gan y Parch. D. LLEWELYN JONES, B.A., Llanidloes MI hoffwn roi gair personol o eglurhad ar y dechrau. Pan wahoddwyd fi gan y Gymdeithas Hanes i roi'r ddarlith flynyddol yn ystod y Gymanfa Gymreig yn y Rhyl, 1958, fe'm cyfarwyddwyd hefyd y disgwylid imi ddewis testun a fyddai'n golygu rhyw fath o ymchwil ynglyn â'r Eurgrawn. Methais â gwrthod, am ddau reswm yn bennaf. Yn gyntaf, yr oeddwn eisoes wedi gwrthod cais cynt gan y Gymdeithas am ddarlith, a hynny oherwydd prinder amser. Y mae'r anawsterau a gefais i lunio'r traethiad hwn yn peri imi gredu mai gwrthod a ddylaswn yr ail waith hefyd, ond un gwael am ddal i wrthod wyf os gwelaf awgrym o ffordd cyflawni, ac y mae gennyf feddwl mawr o'r Gymdeithas a Bathafarn. Yn ail, yr oedd cwestiwn wedi bod yn fy meddwl ers blynyddoedd ond ni chefais egwyl i chwilio am ateb iddo, sef cael gwybod yn weddol sicr beth oedd ymateb ein cyfundeb ni (yn y gwaith Cymraeg) i rai o'r pynciau a oedd yn mynnu llawer o sylw dynion ar ddechrau'r ganrif hon. Tybiwn y byddai'r Eurgrawn ei hun yn debyg o fodloni fy chwilfrydedd i ryw fesur o leiaf. A dyma'r cais am ddarlith yn fy ngorfodi i fynnu'r amser i gyflawni'r dasg yn rhannol. Ie'n rhannol, canys nid oedd modd ymweld â llyfrgelloedd na chwilio rhai ffynon- ellau y dichon y gallent fy nghynorthwyo. Felly, symleiddiais fy nhasg, gan roi'r holl sylw i'r Eurgrawn ei hun, am y gellid cael y cyfrolau angenrheidiol yma, a gadael llonydd i'r cais am 'ymchwil' yn ystyr gaethaf i'r gair hwnnw. Rhaid imi gael rhagymadroddi peth hefyd, er mwyn awgrymu'n glirach ar y dechrau y ffordd a ddilynaf. Gan mai defnyddio'r Eurgrawn a wnawn fel drych o ddechrau'r ganrif hon, neu o rai pethau a ysgogai ddynion bryd hynny (i fod yri fwy manwl), tybiais mai da oedd mynd yn ôl ychydig i ddiwedd y ganrif flaenorol, er mwyn cael gweld a oedd tebygrwydd neu wahaniaeth srweddol bendant rhwng diwedd y naill ganrif a dechrau'r llall, a hefyd a oedd rhyw awgrym o ymwybod clir o ddiwedd a dechrau wrth groesi ffin y canrifoedd. Felly, darllenais gyfrolau Eurgrawn 1899 a ìooo i gael pont imi ei chroesi rhwng diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif. A gallaf bellach dystio i'r dull yna dalu am ei ddilyn oherwvdd imi weld vn eglur iawn fod ymwybod sicr o ffin y ddwy ganrif ar y naill ochr a'r Hall iddi, ac eto, er bod hynny'n wir, 'Traddodwvd svlwedd y traethawd hwn yn Ddarlith v GvmdeitHa; Hanes vn Ysgoldy Capel Heol Clwyd, y Rhyl, Mehefin 3, 1958, a Mr Alun C. Roberts, Blaenau Ffestiniog, yn y gadair. <1