Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llewelyn Benfelyn Fardd Gan y Parch. W. LLEWELYN JONES, Ffynnongroyw YN ei ysgrif ddiddorol ar y gwr hwn o ardal Llandysilio ger- llaw Llangollen (yn Bathafarn, Cyf. 7), dywaid y Parch. Daniel Williams: "Ganed ef bum mlynedd cyn dechrau cyhoeddi'r Eurgrawn, ond methais weld ei enw ar glawr Wesle- aeth yn unman". Eithr gwelwn iddo gyfrannu yn weddol gyson i'r Eurgrawn rhwng 1829 a 1833. Colofn 'barddoniaeth' a hawl- iai gynnyrch ei ysgrifbin bob tro. Cynnwys ei gyfraniadau dair awdl a nifer o englynion. Dyma restr ohonynt: Cyfrol XXI (1829)— Tudalen 92. Englynion­-"Y Beibl Sant- aidd". Cawn ganddo ddeuddeg o englynion a'r cyntaf ohonynt yw: 'Trysor yr holl drysorau,-profir hwn Y prif o'r holl berlau; Eirian un, aur ronynau, Llwyddwr gwir-lladdwr gau'. Oddi tanodd y mae'r enw: John Jones, Llandysilio. Cyfrol XXI-Tudalen 2S2Í. — 'Awdl ar Farwolaeth Mrs. E. Jones, o Gaenog [Gwyddelwern]'. Ceir coffâd i'r wraig rinweddol hon yn Eurgrawn 1828. Y mae'n amlwg fod cysylltiadau teuluaidd gweddol agos rhwng rhai o aelodau'r achosion Wesleaidd yn Llangollen a'r cymniau a Gwyddelwern. At John a Gwen Williams, Wern Uchaf, Llan- gollen, y daeth Elisabeth Jones, Wern-ddu, Gwyddelwern, i fyw pan fu farw ei mam. Priododd yr Elisabeth hon â John mab John a Margaret Bowen, y Dinbren, Llangollen, ond bu farw Tachwedd 26, 1835, yn 27 oed. Priododd Mary, merch John a Margaret Bowen, â John Jones, mab Elizabeth Jones, Caenog, Gwyddelwern. Gwelir felly fod cryn gyfathrach rhwng pobl y ddau Ie. Am yr Elizabeth Jones hon y canodd Llewelyn Benfelyn Fardd yn ei awdl. Gwyddai am ci charedigrwydd ac am ei ffydd Arminaidd. "Rhyfedd o'r diwedd y daeth,-drwy wrando Eiriandeg athrawiaeth, Ni fynai ffydd,-geu-ffydd gaeth, Am un-awr, ond Arminiaeth".