Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Emynau ac Emynwyr Wesleaidd Cymraeg Gan Mr. TUDOR PROFFIT, B.A., Oueensferry, Caer UN o gyfraniadau arbennig y Diwygiad Methodistaidd i'r Eglwys Lân Gatholig oedd ei emynau. Yng Nghymru, rhoes inni emynau Williams Pantycelyn, ac yn Lloegr byrlymodd yr un ffynnon risial allan yn emynau Charles Wesley. Ceir nifer fawr o emynau Charles Wesley mewn llyfr a gyhoeddwyd gyntaf yn Llundain, gyda rhagymadrodd gan John Wesley, dyddiedig Hydref 20, 1779: "A Collection of Hymns for the use of the People called Methodists. By the Rev. John Wesley, M.A., sometime Fellow of Lincoln College, Oxford." Ychwanegwyd "atodiad" i'r llyfr hwn yn 1830, a dywedodd Bernard L. Manning1 mai'r llyfr hwn yw cyfraniad gwerthfawr- ocaf Methodistiaeth Lloegr i etifeddiaeth gyffredin gwledydd Cred: "y mae'r llyfr bychan hwn-rhyw 750 o emynau-ar yr un tir mewn llenyddiaeth Gristionogol â'r Salmau, y Llyfr Gweddi Gyffredin, a Chanon yr Offeren."2 Y clasur hwn o'r eiddo John a Charles Wesley oedd un ffynhonnell emynau i'r Wesleaid Cymraeg. Detholwyd yn helaeth ohono i amryw o'r casgliadau cynnar, o "Diferion y Cysegr", 1802, hyd y "Casgliad o Hymnau at Wasanaeth y Methodistiaid Wesleyaidd", 1845.* Gan nad yw'n bosibl i mi fanylu ar awduriaeth y cyfieithiadau o'r emynau yn Llyfr Emynau John Wesley-priodolir amryw i'r- Parchn. John Hughes (Aberhonddu) a John Bryan-rhoddir sylw gan mwyaf i'r emyn ei hun, ei ddysgeidiaeth a'i ffurf. Yn Llyfr Emynau 1845, y mae'n debyg, y cawn y casgliacf helaeth cyntaf o emynau Llyfr John Wesley wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg. Allan o 1,040 o emynau, detholwyd 223 o'r "Collection of Hymns for the Use of the People called Methodists."4 Ni ddi- lynwyd trefn y llyfr hwnnw, eithr dosbarthwyd yr emynau fwy neu lai megis y gwnaed yn y llyfr presennol (1927). Ond y mae delw'r llyfr uchod yn drwm ar gasgliad 1845.5 Emyn cyntaf llyfr John Wesley oedd: "O, for a thousand tongues to sing." Cofiwn mai dathlu pen blwydd ei droëdigaeth yr oedd Charles Wesley gyda'r emyn hwn, a "throëdigaeth" oedd "gwreiddyn y mater" i bobl y Diwygiad Methodistaidd. Gallai pawb ddyfod 1 adnabocT cariad Duw a'i dderbyn, oblegid daeth y cariad hwnnw i gyrraedd' dyn yng Nghrist: