Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'Twr Gwalia" a'r Wesleaid Gan! y Parch. GRIFFITH T. ROBERTS, M.A., B.D., Talsarnau MISOLYN a gyhoeddid ym Mangor oedd Twr Gwalia, a dyma ddalen deitl y gyfrol gyntaf: "Twr Gwalia: neu Ystorfa Gwybodaeth Gyffredinol. Am y flwyddyn 1843. Llyfr Cyntaf. Dan olygiad Isaac Harding Harries. [Llun o blu Tywysog Cymru] "Bod heb gablu neb." Bangor: Argraffwyd gan R. Jones, dros y Cyhoeddwr. MDCCCXLIII." Gwnaeth y Golygydd fwy o enw iddo'i hun, efallai, fel golygydd Y Figaro1, ond ceir nodyn didd- orol amdano yn Tiur Gwalia hefyd: "BETHEL SCHOOL, Union Street, Bangor. Mae yr Ysgol uchod yn cael ei chadw yn Nghapel Union Street, Bangor. Gan I. H. Harries Dysgid plant a phobl ieuainc yn ei ysgol, ac amrywiai 'r pynciau o sillebu i Roeg a Lladin a Navigation, a'r pris o geiniog yr wythnos i swllt yr wythnos, (t. 63). Adeiladesid capel Bethel, Union Street, gan ddilynwyr y "Wesle Bach" yn 1833, a throes yn gapel Anni- bynnol yn 1843. Rhoddir cryn sylw i Wesleaeth yn y cylchgrawn hwn, ac y mae ei agwedd tuag at y Cyfundeb yn feirniadol bob amser. Hyd yn oed wrth adrodd newyddion ni all ymatal rhag gwatwareg. Dywaid ddarfod cynnal cyfarfod cenhadol ym Man- gor gan y Wesleaid: [wrth sôn am yr ysbryd cenhadol] "dang- hosodd Mr. Aubry, mewn dull gor-gampus ei gymwysder Seraphaiddoledigrwyddedigaethol. Yr oedd ei ymadroddion yn de route yn siglo gorseiliau Gwyniasbyrth y deyrnas anghris- tiaidd, a dorau y deyrnas Gristiawl wrth ei ymadroddion, megys ar aur foglynau yn troi (t. 167). Ac eto, "bod heb gablu neb" oedd arwyddair y cylchgrawn! Yn y rhifyn cyntaf dyfynnir penderfyniadau'r Gynhadledd i brofi ei diffyg cydymdeimlad â'r Mudiad Dirwest (t. 12), ac mewn rhifynau eraill dyfynnir beirniadaethau ar y Gynhadledd a briodolir i'r Arglwydd John Russell, y Dr. Coke, y Dr. Adam Clarke, (t. 44), a'r Parch. Jonathan Crowther (t. 179). Awgrymir bod y Gynhadledd a'r Gweinidogion yn honni awdurdod anffael- edig fel y Pab, a chwanegir y "dylai pob gwir gristion ymwrthod yn egniol a'r cyfryw egwyddorion yn ddioed," (t. 58). Gofynnir nifer o gwestiynau gan ohebydd di-enw yn rhifyn Mai: "1, Eglur- had ar awdurdodaeth y Conference Wesleaidd? 2, A ydyw yn sefydliad ysgrythyrol a'i nad yw? 4, Onid oes tuedd yn yr awdurdodau a arferir ganddo i ddinystrio yr eglwysi o'u rhyddid Crist'nogol? 6, Oni ddylai fod yr holl eglwysydd perthynol i'r corff yn gwybod pa ddefnydd a wneir a'r holl gyfraniadau a gyfrennir ganddynt? 7, Oni ddylai pob brawd fel ei gilydd heb aT. M. Jones: Llenyddiaeth fy Ngwlad, 19. (Gweler hefyd Bathafarn, vii, 10 n. 6).